Ar-lein, Mae'n arbed amser
Sach Gwastraff Gardd Amldro Gwyrdd
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ofyn am Sach Gwastraff Gardd Amldro Gwyrdd.
Bydd y gwasanaeth casglu gwastraff gardd dymhorol yn dod i ben ddydd Gwener Tachwedd 29 2024 ac yn ail gychwyn ddydd Llun Mawrth 31 2025. Derbynnir gwastraff gwyrdd o’r ardd trwy’r flwyddyn yn y canolfannau Casglu Gwastraff Cartref (CCGC).
Fel arfer mae eich casgliad gardd tymhorol ar yr wythnos gyferbyniol, ond yr un diwrnod â’ch casgliad bin olwynion, fodd bynnag, ceir eithriadau i hyn felly gallwch wirio ar ein canfyddwr cod post neu gallwch gysylltu â Wasteservices@merthyr.gov.uk
Bydd casgliadau’n cael eu gwneud pob pythefnos o’ch dyddiad dechrau.
Bydd gwastraff gardd sy’n cael ei gasglu ar wahân yn cael ei danfon i ganolfan leol a’i droi’n gompost. Mae’r compost hwn yn cael ei ddefnyddio er mwyn gwella’r pridd ar gyfer nifer o brosiectau gwella’r pridd gan drawsffurfio ardaloedd yn gynefinoedd natur sy’n weledol bleserus.
Mae’ch cefnogaeth yn hyn o beth yn gymorth er mwyn osgoi defnyddio safleoedd tirlenwi i waredu’r adnodd defnyddiol hwn ac mae’r ynni o’r gwastraff yn darparu cynnyrch o ansawdd da ac sy’n ddefnyddiol.
OS GWELWCH YN DDA!
- Dail
- Blodau
- Planhigion
- Chwyn
- Gwair
- Toriadau perthi
- Toriadau coed a llwyni
- Brigau bach
DIM DIOLCH!
- Brigau mawr/boncyffion**
- Pridd a thywarch**
- Planhigion ymledol (llysiau’r dial, efwr, llysiau’r gingroen)
- Cerrig**
- Gwastraff cartref*
- Gwastraff bwyd (defnyddiwch eich bin gwastraff bwyd)
- Gwastraff anifeiliaid (gellir rhoi meintiau bach yn eich bin olwynion)
- Pren**
* Defnyddiwch eich bin olwynion
** Ewch ag ef i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref
Casgliad Gwastraff Gwyrdd Swmpus
Rydym yn gweithredu casgliad gwastraff gwyrdd swmpus sy'n £49.07 am bob llwyth cerbyd. Er mwyn trefnu casgliau, cysylltwch a'r ganolfan alwadau ar 01685 725000.