Ar-lein, Mae'n arbed amser
Bin mwy o faint
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ymgeisio am bin cynhwysedd mwy.
O 1 Ebrill 2025 ymlaen, codir tâl o £18.72 am ddarparu’r bin cynhwysedd mwy, sy’n daladwy cyn ei ddosbarthu. Unwaith nad oes angen y bin hwn bellach, darperir bin 140 litr safonol yn rhad ac am ddim.
Os ydych yn gwneud cais am fin sbwriel mwy o faint oherwydd gwastraff cewynnau babi, beth am ystyried defnyddio cewynnau go iawn? Mae defnyddio cewynnau go iawn yn lleihau bron i 900kg o wastraff am bob plentyn. Oeddech chi’n gwybod bod cewynnau un-tro yn gyfrifol am rhwng 2% a 3% o holl wastraff y cartref? Ewch at ein tudalen gwybodaeth cewynnau go iawn i ddarganfod mwy cyn gwneud cais am fin sbwriel mwy o faint
Cynhelir archwiliad o’ch bin presennol gan y Wardeiniaid Gwastraff, fel arfer ar eich diwrnod casglu nesaf.
Gwneir asesiad i ganfod a oes angen bin mwy o faint ar ddeiliad y tŷ trwy fesur a yw swm y gwastraff na ellir mo’i ailgylchu yn fwy na’r hyn y gellir ei gynnwys yn y bin 140 litr safonol.
Os oes unrhyw ddeunydd i’w ailgylchu yn y bin olwyn, bydd y Warden yn gwrthod y cais.
Os bydd y Warden yn ystyried bod y deiliad tŷ yn ailgylchu pob dim posibl a’i fod yn parhau â gormod o wastraff na ellir mo’i roi yn y Bin 140 litr â’r caead ar gau yn llwyr, yna bydd y cais yn cael ei basio.
Anfonir llythyr neu e-bost atoch i’ch hysbysu o ganlyniad y cais.
Os yw’n llwyddiannus, caiff y bin â’r capasiti ychwanegol ei ddosbarthu o fewn 10 niwrnod.
Os nad yw ymgeiswyr yn defnyddio’r gwasanaethau ailgylchu yn ôl y gofyn, yna rhoddir cyngor ynghyd â chynwysyddion ailgylchu lle bo angen.
Os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad
Fel rhan o’r broses apelio, bydd y Wardeiniaid Gwastraff yn cynnal ail archwiliad os bydd y deiliad tŷ yn cynnig rheswm dilys am fethiant yr archwiliad gwreiddiol i adlewyrchu’i wastraff arferol bob pythefnos.
Dim ond un apêl fesul cartref a ganiateir, oni bai bod amgylchiadau’r deiliaid yn newid.