Ar-lein, Mae'n arbed amser

Dewch i ni Siarad am Ailgylchu ym Merthyr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi gwneud cynnydd mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae graddfa ein hailgylchu wedi dringo o ychydig yn llai na 50% ddegawd yn ôl i dros 64% erbyn heddiw. Mae hynny diolch i waith caled trigolion Merthyr, ein timau gwastraff a’n partneriaid cymunedol. Ond nid ydym yn stopio fan hyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol sy’n gofyn bod 70% o’n gwastraff yn cael ei ail-ddefnyddio, ei ail-gylchu neu ei droi’n wrtaith. Bydd peidio â chyrraedd y nod hwn yn golygu dirwy ariannol ddifrifol o ryw £50,000 ar gyfer pob 1% o dan y nod hwnnw. Byddai’n well gennym fuddsoddi’r arian hwn mewn ysgolion, ffyrdd a gwasanaethau hanfodol ein cymunedau – nid ei daflu ymaith ar gosbau gallwn eu hosgoi.

Mae pob un eitem rydych yn ei ailgylchu yn ein cynorthwyo ni i nesáu at y nod hwnnw.

Felly, beth ydym yn ei wneud?

Gwella’r Gwasanaeth Ailgylchu wrth Ymyl y Ffordd

Rydym yn cynnig gwasanaeth ailgylchu wrth ymyl y ffordd yn wythnosol lle rydym yn casglu bwyd, gwydr, plastig, caniau, papur a chardfwrdd. Er mwyn cefnogi gwasanaeth ailgylchu effeithiol rydym yn darparu cynwysyddion yn rhad ac am ddim er mwyn gosod trefn ar y deunyddiau hyn. Mae gwelliannau diweddar hefyd yn galluogi trigolion ein bwrdeistref i ailgylchu brethyn, batris ac eitemau trydanol bach megis tegellau, sychwyr gwallt ac ati wrth ymyl y ffordd.

Casglu Gwastraff Swmpus yn Rhad ac am Ddim

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth lle rydym yn casglu rhai eitemau swmpus penodol yn rhad ac am ddim – pethau fel oergelloedd, ffyrnau, setiau teledu a dodrefn metel. Mae hwn yn cynorthwyo ein trigolion i gael gwared ar eitemau mawr mewn ffordd gyfrifol, wrth gefnogi’r broses o ail-ddefnyddio ac ailgylchu. Rydym nawr yn bartner i Wastesavers er mwyn rhoi “Bywyd Newydd” i ddodrefn o safon yn ein siop ym Mhentrebach. Mae’r fenter yn cefnogi’r ymgais i ail-ddefnyddio a lleihau gwastraff ac mae’n ffordd o roi cartref newydd i eitemau o safon.

Cynllun Ailgylchu i Fusnesau

Rydym eisoes yn cynnig gwasanaeth ailgylchu masnachol am bris cystadleuol i fusnesau ym Merthyr Tudful, ac yn ogystal â hyn rydym wedi lansio Cynllun Derbyn Masnach yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref yn Nowlais ac Aberfan, gwasanaeth wedi'i gynllunio i gefnogi busnesau lleol a helpu i fodloni gofynion Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2024.

Am ffi flynyddol isel, gall busnesau ailgylchu deunyddiau wedi'u didoli yn ein canolfannau dynodedig a derbyn Nodyn Trosglwyddo Gwastraff blynyddol, gan gyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Mae'r fenter hon yn ei gwneud hi'n haws i fusnesau gydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol, yn annog rheolaeth gwastraff gyfrifol, ac yn helpu i wella cyfraddau ailgylchu ledled y fwrdeistref a lleihau effaith amgylcheddol.

Drwy gymryd rhan, mae mentrau lleol yn cyfrannu at Ferthyr Tudful lanach a gwyrddach wrth barhau i gydymffurfio â'r rheoliadau cyfredol.

Edrych i’r Dyfodol: Ein Strategaeth Wastraff 2025-2030

Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ynghylch strategaeth newydd i leihau gwastraff y biniau du, cynyddu’r weithred o ail-ddefnyddio a thrwsio eitemau, gwella effeithlonrwydd a pharatoi ar gyfer rheoliadau’r dyfodol megis y Cynllun Masnachu Allyriadau, a fydd yn cyfyngu ar allyriadau carbon o losgi gwastraff.

Rydym yn ymwybodol bod 30% o’r hyn sydd yn ein biniau yn wastraff bwyd, ac y gallai 53% gael ei ailgylchu. Dyna pam rydym yn cynyddu’r addysg ar gefnogaeth sydd ar gael er mwyn cynorthwyo pob un cartref i ailgylchu mwy – ac i ailgylchu’n well.

Pam fod hwn yn Bwysig

Nid yw ailgylchu yn ymwneud â biniau yn unig – mae’n ymwneud â gwarchod ein hamgylchfyd, arbed arian a chreu Merthyr Tudful sy’n wyrddach ac yn wytnach. Mae pob un eitem sy’n cael ei ailgylchu’n ein helpu ni i osgoi dirwyon, lleihau allyriadau a buddsoddi mewn gwasanaethau gwell.

Sut y Gallwch chi Helpu

Defnyddiwch y cynwysyddion cywir - edrychwch ar ein gwefan am ganllawiau

Defnyddiwch a chefnogwch y siop ailddefnyddio New Lease of Life

Ewch i'n Canolfannau Ailgylchu yn Aberfan a Dowlais

Rhannwch eich llwyddiannau ailgylchu gan ddefnyddio #MerthyrAilgylchu

Gyda'n gilydd, gallwn gyrraedd ein targedau, osgoi costau diangen, a throi Merthyr Tudful yn lle glanach a gwyrddach i fyw ynddo. Diolch am chwarae rhan.

Cysylltwch â Ni