Ar-lein, Mae'n arbed amser
Diwygio tystysgrif geni
A allaf i newid y cofnod geni yn ddiweddarach?
Cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru a fydd yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ynglŷn â newid cofnod.
Pam fyddwn i’n ail-gofrestru fy mhlentyn?
Os yw’r rhieni naturiol wedi priodi ei gilydd ers yr enedigaeth, bydd angen ail-gofrestru fel y gall cofnod geni newydd gael ei greu i ddangos y plentyn fel plentyn o briodas y rhiant.
Os yw’r rhieni'n ddi-briod ac yn dymuno ychwanegu manylion y tad naturiol at y cofnod geni, bydd angen ail-gofrestru fel y gall cofnod geni newydd gael ei greu i gymryd lle’r un gwreiddiol.
Gall ail-gofrestru fod yn ofynnol mewn amgylchiadau eraill, cysylltwch â’r swyddfa Gofrestru am fanylion pellach.
Am ragor o wybodaeth am newid enw trwy weithred newid enw, ewch i wefan Gweithred Newid Enw DU drwy ein hadran dolenni allanol ar y dde o’r dudalen hon.
Swyddfa Gofrestru Merthyr Tudful
Tŷ Penderyn
26 Stryd Fawr
Merthyr Tudful
CF47 8DP
01685 727333