Ar-lein, Mae'n arbed amser
Chwilio Hanes Teulu
Hanes Genedigaethau a Phriodasau Teulu
Mae olrhain hanes eich teulu yn gyffrous a gwerth chweil, ond gall fod yn cymryd llawer o amser ac yn gymhleth.
Y cam cyntaf yw casglu’r holl wybodaeth y gallwch gan berthnasau. Unrhyw ddogfennau fel ewyllysiau, tystysgrifau geni, marwolaeth a phriodas, Beiblau teulu a thoriadau papur newydd. Lluniwch goeden deulu sylfaenol i roi syniad o’r bylchau fydd yn rhaid i chi ei lenwi. Yna gweithiwch yn ôl gan ddefnyddio gwybodaeth sydd eisoes yn hysbys am berthnasau.
Dechreuodd cofrestru sifil genedigaethau, marwolaethau a phriodasau ar 1 Gorffennaf, 1837.
Noder nad ydym yn cadw cofnodion o ysgariadau.
Yr wybodaeth lleiaf sydd yn ofynnol i ddechrau olrhain unrhyw gofnod yw y rhanbarth cofrestru, y flwyddyn ac enw. Fodd bynnag, po fwyaf o wybodaeth a roddwch po uchaf y siawns ein bod ni’n dod o hyd i’r cofnod.
Cofnodion marwolaeth
Mae Cofnodion Marwolaeth yn cael eu cadw gan Gofrestryddion. Er mwyn cynnal chwiliad cysylltwch â’r Cofrestryddion ar 01685 727333 neu e-bostiwch registrars@merthyr.gov.uk
Cofnodion claddu
Mae holl gofnodion claddu ar gyfer mynwentydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cael eu cadw yn y Swyddfa Gwasanaethau Profedigaeth yn y Ganolfan Ddinesig. Mae’r cofnodion hynaf yn mynd yn ôl i’r 1800au canol.
Y manylion ar gael o’r cofrestri yw fel a ganlyn:
- Enw’r person a gladdwyd
- Oed
- Proffesiwn
- Cyfeiriad
- Lle ddigwyddodd marwolaeth
- Dyddiad y Claddu
Mae chwiliadau Hanes Teulu ar gael cyn belled fod gennych y manylion perthnasol i wneud y chwilio h.y. dyddiad y farwolaeth, enw llawn yr ymadawedig, cyfeiriad yr ymadewig a.y.y.b. Os ydych yn gall galw i’n swyddfa a gwneud y gwaith ymchwil yn bersonol, yna mae mynediad at y cofnodion a’r wybodaeth yn rhad ac am ddim.
Gweler y dudalen Ffioedd Mynwentydd am ffioedd chwilio cyfredol.
Pryd y gellir gwneud chwiliad?
Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud chwiliad bersonol i hanes teulu wneud hynny rhwng 10.00 a.m. a 12.00 p.m. a 2.00 a.m. a 4:00 p.m. o ddydd Mawrth i ddydd Gwener, gydag awdurdod ymlaen llaw gan y Swyddfa Gwasanaethau Profedigaeth.
Mae rhagor o wybodaeth sy’n gysylltiedig ag ymchwil hanes teulu megis ysgrifau coffa/ adroddiadau angladd a fyddai wedi ymddangos yn y Merthyr Express a.y.b. ar gael yn Llyfrgell Ganolog Merthyr Tudful. I gysylltu â’r Llyfrgell, ffoniwch 01685 353480.
Mae ein cofrestri yn dyddio yn ôl fel a ganlyn
- Pant 1860
- Cefn 1859
- Ffrwd 1901
- Pontycapel 1982
- Capel Fach 1994
- Aberfan 1876
- Bryntaf 1915
- Beechgrove 1888
- Graigfargoed 1924