Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cofrestru marwolaeth

Mae angen i mi gofrestru marwolaeth – beth ddylwn i ei wneud?

Pan fyddwch wedi dioddef profedigaeth mae’n anodd iawn gwybod beth i’w wneud yn gyntaf. Mae’r wybodaeth ganlynol wedi’i gynllunio i’ch cynorthwyo i gofrestru’r farwolaeth ac i ateb eich cwestiynau ar unwaith. Ffoniwch y swyddfa ar y rhif isod os ydych yn dymuno, a bydd ein staff profiadol yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu chi.

Mae Cofrestru Marwolaeth  yng Nghanolfan Gofrestru Merthyr Tudful yn broses dau gam. Y rhan gyntaf yw sgwrs ffon gyda’r un sy’n hysbysu ac un o’n cofrestrwyr, ble bydd y manylion angenrheidiol ar gyfer yr apwyntiad yn cael eu cymryd a phopeth yn cael ei esbonio yn fanwl. Yn ystod yr alwad byddwn yn trefnu apwyntiad cyfleus i bawb yn ein swyddfa er mwyn prosesu ail gam yr apwyntiad, ble byddwch yn arwyddo a gwirio tudalen y gofrestr. Bydd pob cyfle i chi i godi pryderon gyda’r cofrestrydd yn yr apwyntiad. Cost y Dystysgrif Marwolaeth yw £11 ac mae’r taliad trwy gerdyn yn unig. Bydd y gwaith papur sy’n angenrheidiol i’r Ymgymerwr yn cael ei e-bostio atynt yn uniongyrchol, yn dilyn ail ran eich apwyntiad.

Nodwch nad ydym yn gallu trefnu apwyntiad neu gychwyn y broses gofrestru nes ydym wedi derbyn y gwaith papur meddygol angenrheidiol. Ond, os ydych eisiau gadael eich manylion cyswllt o flaen llaw, peidiwch oedi cysylltu gyda’r tîm ar 01685 727333.

Cwestiynau Cyffredin

  • Pwy sy’n gallu cofrestru marwolaeth?
  • Ble allaf i gofrestru marwolaeth?
  • Pryd mae’n rhaid i mi gofrestru’r farwolaeth?
  • Pa gwestiynau fydd y cofrestrydd yn gofyn i mi?
  • Pa ddogfennau fydd angen i mi gynhyrchu?
  • Pa ddogfennau fydd y cofrestrydd yn rhoi i mi?
  • Beth am dystysgrifau marwolaeth?
  • Apwyntiadau
  • Unrhyw gwestiynau pellach?

Pwy sy’n gallu cofrestru marwolaeth?

Fel arfer, bydd perthynas i’r ymadawedig yn cofrestru’r farwolaeth. Os nad yw hyn yn bosibl, mae yna bobl eraill all fod yn gymwys i gofrestru. Cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru am ragor o wybodaeth.

Ble allaf i gofrestru marwolaeth?

Mae’n rhaid i’r farwolaeth gael ei chofrestru o fewn yr ardal y digwyddodd. Fodd bynnag, os nad ydych yn gallu ymweld â’r Swyddfa Gofrestru yn yr ardal honno, gallwch fynd i unrhyw Swyddfa Gofrestru yng Nghymru neu Loegr. Gelwir hyn yn gofrestru marwolaeth trwy ddatganiad a bydd y Cofrestrydd sydd yn eich gweld yn anfon y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i’r Rhanbarth Cofrestru perthnasol.

Yn yr achos hwn mae’r awdurdod yn caniatáu i’r trefnydd angladdau i fwrw ymlaen â threfniadau, a bydd unrhyw dystysgrifau marwolaeth efallai y byddwch angen, yn cael eu hanfon atoch drwy’r post.

Noder y gall cofrestru marwolaeth trwy ddatganiad gymryd mwy o amser na chofrestru uniongyrchol â’r ardal lle ddigwyddodd y farwolaeth. Gall hyn, yn ei dro, arwain at oedi cyn derbyn y tystysgrifau angenrheidiol i ganiatáu i’r angladd gael ei gynnal. Os byddwch yn dewis defnyddio’r cyfleuster hwn, cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru ymlaen llaw am ragor o wybodaeth.

I gofrestru marwolaeth, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru.

Pryd mae’n rhaid i mi gofrestru’r farwolaeth?

Fel rheol, dylai pob marwolaeth gael ei chofrestru o fewn pum diwrnod (oni bai fod crwner yn ymchwilio i’r amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth).

Pa gwestiynau fydd y Cofrestrydd yn ofyn i mi?

Bydd angen i’r Cofrestrydd wybod y wybodaeth ganlynol:

  • Dyddiad a lleoliad y farwolaeth
  • Cyfeiriad diwethaf(arferol) yr ymadawedig
  • Enw(au) a chyfenw llawn yr ymadawedig (a’r cyfenw cyn priodi)
  • Dyddiad a lleoliad geni yr ymadawedig (tref a sir os aned yn y DU, a gwlad os eni dramor)
  • Galwedigaeth yr ymadawedig ac enw a galwedigaeth ei briod, ac o gyn-briod fel y bo’n briodol
  • Os oedd yr ymadawedig yn derbyn pensiwn neu lwfans o gronfeydd cyhoeddus
  • Os oedd yr ymadawedig yn briod, dyddiad geni'r weddw neu’r gŵr gweddw sy’n goroesi
  • Gwybodaeth ystadegol arall

Pa ddogfennau fydd angen i mi gynhyrchu?

Bydd angen i chi gyflwyno’r dogfennau canlynol i’r Cofrestrydd:

  • Tystysgrif feddygol o achos y farwolaeth (a gyhoeddwyd gan y meddyg a ardystiodd y farwolaeth)
  • Cerdyn meddygol GIG yr ymadawedig (os ar gael)
  • Unrhyw lyfr pensiwn, tystysgrif neu ddogfennau’n ymwneud ag unrhyw bensiwn neu fudd-daliadau y mae’r ymadawedig yn derbyn o gronfeydd cyhoeddus
  • Mae hefyd yn ddefnyddiol os oes gennychchi dystysgrifau geni, os yw’n berthnasol, a phriodas wrth law; er nad yw’r dogfennau hyn yn hanfodol ar yr amod eich bod yn gallu cyflenwi’r wybodaeth gywir
  • Os yw’r farwolaeth wedi cael ei chyfeirio at y Crwner, efallai y bydd y Crwner yn cyhoeddi tystysgrif arall yn uniongyrchol i’r Swyddfa Gofrestru. Bydd y Cofrestrydd angen y dystysgrif hon cyn y gall y farwolaeth gael ei chofrestru. Mewn achosion lle mae’r farwolaeth wedi cael ei chyfeirio at y Crwner, mae bob amser yn ddoeth cysylltu â’r Swyddfa Gofrestru cyn mynychu unrhyw apwyntiad efallai eich bod wedi gwneud
  • Byddai dogfennau cefnogi yn ymwneud â’r ymadawedig yn helpu gyda’r cofrestru (tystysgrif geni, pasbort, tystysgrif priodas/partneriaeth sifil, prawf o gyfeiriad)

Os na allwch ddod â'r dogfennau hyn, ni fydd hynny yn eich rhwystro rhag cofrestru'r farwolaeth. Fodd bynnag, byddai'n ddefnyddiol os gallech ddod â nhw os yn bosibl fel y gallwn sicrhau bod ein cofnodion yn gywir.

Pa ddogfennau fydd y Cofrestrydd yn rhoi i mi?

Bydd y Cofrestrydd yn rhoi'r dogfennau canlynol yn rhad ac am ddim i chi:

  • Tystysgrif ar gyfer Claddu neu Amlosgi. Gelwir hyn yn y ffurflen werdd ac mae’n rhoi caniatâd i’r corff gael ei gladdu neu amlosgi. Dylid ei gyflwyno i’r trefnydd angladdau er mwyn i’r angladd allu cael ei gynnal. Fodd bynnag, os oedd y farwolaeth wedi cael ei chyfeirio at y Crwner, efallai caiff ffurflenni eu cyhoeddi o’r swyddfa hon fydd yn cymryd lle yr uchod.
  • Tystysgrif Cofrestru Marwolaeth (ffurflen wen a elwir yn BD8). At ddiben Nawdd Cymdeithasol.
  • Mynediad at y gwasanaeth Dweud unwaith

Beth am Dystysgrif Marwolaeth?

Mae cofrestru marwolaeth yn rhad ac am ddim, ond os byddwch angen copi o'r dystysgrif bydd yn rhaid i chi dalu'r costau canlynol:

  • £11.00 am dystysgrif marwolaeth

Efallai y byddwch angen tystysgrif marwolaeth ar gyfer yr Ewyllys ac unrhyw hawliadau pensiwn, polisïau yswiriant, cyfrifon banc a bondiau premiwm. Mae'n haws prynu'r copïau hyn pan fyddwch yn ymweld â'r Cofrestrydd, ond byddant ar gael os byddwch angen copïau eraill yn ddiweddarach.

Apwyntiadau

Defnyddir system apwyntiadau i'ch helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn a gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd ein staff yn gwneud eu gorau i sicrhau bod eich ymweliad â ni mor syml â phosibl. Dylech ffonio cyn ymweld â'r swyddfa i drefnu dyddiad ac amser cyfleus.

Dywedwch Wrthym Unwaith

Pan fydd rhywun yn marw, gall y Cofrestryddion helpu i roi gwybod i'r bobl angenrheidiol am y farwolaeth. Mae "Dywedwch Wrthym Unwaith" yn wasanaeth sy'n cael eu cynnig gan y Cofrestryddion i'r teulu yn dilyn cofrestru marwolaeth, a byddant yn hysbysu'r Cyngor ac adrannau canolog y Llywodraeth, Ysbytai, Meddygon Teulu a Chymdeithasau Tai sydd angen gwybod, ar ran y teulu.

I bwy allwn ni roi gwybod?

Adran Gwaith a Phensiynau – Budd-dal Profedigaeth; Pensiwn y Wladwriaeth; Credyd Pensiwn; Lwfans Gweini; Lwfans Byw i'r Anabl; Lwfans Gofalwr; Lwfans Cyflogaeth a Chymorth; Budd-dal Analluogrwydd; Cymhorthdal Incwm; Lwfans Ceisio Gwaith; Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr; Tîm Iechyd Dramor.

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi – Credyd Treth Gwaith; Credyd Treth Plant; Budd-dal Plant, Trethiant Personol.

Asiantaeth y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr – Cynllun Pensiynau Rhyfel, Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog a Chynllun Pensiwn y Lluoedd Arfog.

Y Cyngor – Gwasanaethau Oedolion; Gwasanaethau Plant; Gwasanaethau Etholiadol; Llyfrgelloedd; Treth Cyngor; Budd-dal Tai a Threth Cyngor; Llinell Bywyd; Cynllun Bathodyn Glas; Cyngor Tai; Teithio Consesiynol; Trwyddedau Parcio; Pensiynau a Chyflogres Llywodraeth Leol; Aelodaeth Canolfan Hamdden Merthyr.

DVLA – Trwydded Yrru

Y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau - Pasbort y DU.

Cymdeithasau Tai – Cymdeithas Tai Cymru a'r Gorllewin; Cymdeithas Tai Hafod, Cymdeithas Tai Merthyr Tudful, Tai Cymoedd Merthyr.

Pa wybodaeth sydd ei angen arnom?

Pan fyddwch wedi cofrestru marwolaeth, byddwch yn cael cynnig y gwasanaeth "Dywedwch Wrthym Unwaith", ac mae'n bwysig bod gennych y wybodaeth ganlynol:

  • Rhif Yswiriant Cenedlaethol a dyddiad geni'r sawl sydd wedi marw
  • Manylion am unrhyw fudd-daliadau yr oeddent yn eu derbyn
  • Eu Pasbort neu rif eu Pasbort a thref neu wlad eu geni
  • Eu Trwydded Yrru neu rif eu Trwydded Yrru, os yw'n berthnasol

Efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth am y canlynol:

  • Perthynas agosaf y sawl sydd wedi marw
  • Gŵr /gwraig neu bartner sifil sydd dal yn fyw
  • Yr unigolyn sy'n delio â'u hystâd
  • Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth a gawn gennych?

Byddwn yn trin y wybodaeth a gawn gennych yn ddiogel ac yn gyfrinachol. Bydd y sefydliadau a enwyd uchod yn ei ddefnyddio i ddiweddaru cofnodion, dod â gwasanaethau, budd-daliadau a hawliadau i ben, a datrys unrhyw broblemau. Gallant ddefnyddio'r wybodaeth a roddwn iddynt mewn ffyrdd eraill, ond mae'n rhaid gwneud hynny'n unol â'r gyfraith.

Cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw sefydliad sy'n talu budd-daliadau wedi derbyn y wybodaeth gywir ddiweddaraf.

Gallwch gyflawni'r gwasanaeth hwn mewn ychydig o funudau, a bydd yn arbed amser a chostau i'r hysbysydd o ran cysylltu â nifer o adrannau a sefydliadau sydd angen gwybod.

Os hoffech wybodaeth mwy am y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith, cysylltwch ag adran y Cofrestryddion ar 01685 727333.

Hefyd, mae gwybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth y DU, Direct Gov.

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?