Ar-lein, Mae'n arbed amser
Pwy ydym ni? A beth ydym ni’n wneud?
Pwy ydym ni? A beth ydym ni’n wneud?
Mae Hyb Cymunedol Cwmpawd wedi’i leoli yn y Gurnos, Merthyr Tudful ac yn cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Mae’r Hyb yn darparu dysgu a chymorth i unrhyw un 16+ oed sy’n byw yn y DU, beth bynnag fo’ch amgylchiadau cyflogaeth. Gall ein hystod o hyfforddiant a chefnogaeth eich helpu i ddysgu rhywbeth newydd, gwneud ffrindiau newydd neu gynyddu eich sgiliau cysylltiedig â gwaith. Mae ein gweithdai, ein cyrsiau a’n digwyddiadau cymunedol yn cael eu cynnig ar wahanol ddyddiau ac amseroedd yn ystod yr wythnos. Mae pob cwrs, gweithdy a chefnogaeth am ddim.
Pa gyfleusterau sydd gan Hyb Cymunedol Cwmpawd i’w gynnig?
- Gweithdai Adeiladu (gan gynnwys gwaith coed, plymio, gosod brics a phlastro)
- Ystafell Hyfforddi Sgiliau Manwerthu
- Salon Hyfforddi Gwallt a Harddwch
- Ystafell TGCh
- Ystafelloedd Cynadledda/Hyfforddiant
- Ystafell Serameg/Celf
Pa gefnogaeth all Hyb Cymunedol Cwmpawd ei gynnig?
- Cymwysterau a hyfforddiant achrededig cysylltiedig â gwaith
- Cefnogaeth unigol un i un i oresgyn rhwystrau yn y gwaith
- Cefnogaeth cyflogaeth i gynyddu oriau gwaith / newid gyrfa
- Cefnogaeth iechyd a lles
- Cyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau gwaith
- Dosbarthiadau dysgu oedolion mewn amrywiaeth o bynciau
Gweithdai Adeiladu
P'un a ydych chi'n ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu neu eisiau dysgu'r pethau sylfaenol, ein gweithdai cwbl weithredol yw'r lle i ddechrau. Mae gan ein tiwtoriaid gyfoeth o wybodaeth mewn gwaith coed, gosod brics, plymio a theilsio lle gallwch ennill cymwysterau gweithle lefel mynediad i symud ymlaen ymhellach neu DIY sylfaenol er eich budd eich hun o gwmpas y tŷ. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant a pharatoi i gael eich cerdyn CSCS, gan weithio ar gyflymder unigol sy'n gyfleus i chi.
Ystafell Hyfforddiant Sgiliau Manwerthu
Mae ein hystafell hyfforddi sgiliau manwerthu yn gyfle gwych i ennill profiad a pharatoi ar gyfer rôl manwerthu neu letygarwch. Rydym yn cynnig cymwysterau mewn Manwerthu yn y Gweithle a Gwasanaeth Cwsmeriaid, felly p’un a ydych am loywi eich sgiliau manwerthu neu weld ai dyna’r dewis gyrfa i chi drwy ennill profiad – gall Hyb Cymunedol Cwmpawd eich helpu.
Salon Gwallt a Harddwch
Yn Hyb Cymunedol Cwmpawd, mae ein hystafell gwallt a harddwch yn rhoi’r profiad salon i chi wella’r sgiliau presennol neu weld ai dyma’r newid gyrfa i chi. Rydym yn cynnig cymwysterau mewn cynorthwyo harddwr neu steilydd gwallt i’ch galluogi i gychwyn ar eich taith yn y sector Gwallt a Harddwch. Gallwch hefyd ennill cymwysterau proffesiynol mewn amrywiaeth o feysydd fel cwyr a lliw aeliau, estyniadau blew'r amrannau, technoleg ewinedd a thyllu'r corff.
Ystafell TGCh
Mae gennym ystafell TGCh bwrpasol sy'n cynnig amrywiaeth o gyrsiau i gynnwys dechreuwyr llwyr i gymwysterau lefel 2 proffesiynol. Mae ein gweithdai TG hefyd yn cynnig cyrsiau byr a all eich galluogi i uwchsgilio. Mae'r rhain yn cynnwys diogelwch ar-lein, defnyddio Teams, Excel a Microsoft Office. Mae'r dysgu'n hyblyg ac mae cyrsiau'n cael eu cynnal trwy gydol yr wythnos gan gynnwys gyda'r nos.
Gweithdy Cerameg / Celf
Mae gan ein cyfleuster cerameg a chelf cymunedol unigryw olwynion crochenwyr ac ystafell odyn i'ch galluogi i ddysgu amrywiaeth o dechnegau i greu eitemau o glai. Mae ein dosbarthiadau celf a chrefft yn cynnwys gwnïo, gwneud gemwaith a chrefft cyffredinol. Mae’n gyfle gwych i ddod draw i ddechrau hobi newydd, ystyried gyrfa newydd, gwneud ffrindiau newydd neu wella’ch lles.
Ystafelloedd Hyfforddi/Cynadledda
Yn Hyb Cymunedol Cwmpawd, mae gennym ddwy ystafell gynadledda/hyfforddi ar gael i’w llogi. Felly os ydych yn chwilio am leoliad cymunedol i gynnal hyfforddiant neu gyfarfodydd, holwch nawr.
Hyfforddiant Pwrpasol
Mae ein pecynnau hyfforddi wedi’u llunio i weddu i’ch anghenion ac rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o hyfforddiant penodol i waith megis:
- Cymorth Cyntaf
- Diogelu
- Codi a Chario
- Diogelwch a Hylendid Bwyd
- Iechyd a Diogelwch yn yr Amgylchedd Adeiladu a Cherdyn CSCS
- Hyfforddiant SIA
- Hyfforddiant Dymper / Roller
- Iechyd a diogelwch yn y gwaith
- COSHH
- Hylendid Bwyd lefel 2
Cefnogaeth “Mewn Gwaith”
Mae gan Hyb Cymunedol Cwmpawd fentoriaid dynodedig i’ch hyfforddi a’ch cefnogi i anelu at eich nod gyrfa. P'un a ydych yn bwriadu dechrau eich busnes eich hun, trosglwyddo i gyflogaeth amser llawn, mynd i addysg amser llawn neu weithio tuag at eich swydd ddelfrydol, gallwn helpu. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i'ch cefnogi gyda rhwystrau y gallech fod yn eu hwynebu i'ch helpu i ragori mewn gwaith.
Lleoliad Gwaith a Gwirfoddoli
Yn Hyb Cymunedol Cwmpawd, rydym yn cysylltu â chyflogwyr ac elusennau lleol i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau gwaith gyda’r nod o ymestyn eich CV, gwella eich profiad a’ch symud yn nes at eich nodau gyrfa.
Mae ein cyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau gwaith wedi’u teilwra i anghenion a phwrpas unigol, gyda Swyddog Dilyniant yn eich arwain a’ch cefnogi drwy’r holl broses a’r profiad.
Manylion cyswllt
Rhif Ffȏn: 01685 727099
E-bostl: compass.communityhub@merthyr.gov.uk
Facebook: Compass Community Hub
Instagram: compasscommunity.hub
X: CompassComHub
Cyfeiriad: 17-20 Penydre, Gurnos, Merthyr Tudful, CF47 9DY