Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2024-2025

Ar 19 Rhagfyr 2023, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y byddai'r rhyddhad ardrethi'n cael ei ehangu dros dro ar gyfer 2024-25.

Mae’r rhyddhad yn cael ei gynnig o 1 Ebrill 2024 a bydd ar gael tan 31 Mawrth 2025.

Mae’r rhyddhad hwn wedi’i anelu at fusnesau a threthdalwyr eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, er enghraifft siopau, tafarnau a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.

Nod y cynllun yw darparu cymorth i eiddo cymwys sydd wedi’i feddiannu drwy gynnig 40% o ostyngiad ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o’r fath. Bydd y cynllun ar gael i bob busnes cymwys, fodd bynnag bydd uchafswm i swm y rhyddhad y caiff busnesau ei hawlio ar draws Cymru. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws yr holl eiddo sy’n cael eu defnyddio gan yr un busnes.

Mae angen i bob busnes ddatgan nad yw swm y rhyddhad y maent yn gwneud cais amdano ar draws Cymru yn fwy na’r uchafswm wrth wneud cais i awdurdodau lleol unigol.

Canllawiau 2024-2025

Gwneud Cais Ar-lein 

Cysylltwch â Ni