Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyngor ar dalu eich bil Treth Gyngor

A oes raid i mi dalu’r Dreth Gyngor?

Os ydych wedi symud i mewn i, wedi dyfod yn gyfrifol dros neu wedi prynu eiddo mae rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith i’n cynghori pwy yw’r person cyfrifol am yr eiddo: gellir gwneud hyn ar-lein nawr - Mynediad at eich cyfrif Treth Gyngor eich hun ar-lein.

Mae’n rhaid i chi dalu’r Dreth Gyngor ar gyfer y rhan fwyaf o eiddo. Ceir un Gorchymyn y Dreth Gyngor ar gyfer pob eiddo boed yn dŷ, byngalo, fflat, maisonette neu gartref symudol neu’n gwch preswyl a boed dan berchnogaeth neu wedi ei rentu.

Mae’r bil rydych yn ei dderbyn ar ddechrau’r flwyddyn ariannol yn eich galluogi i dalu 10 rhandaliad misol. Fel arfer, perchnogion preswyl yr annedd neu’r tenantiaid sy’n atebol.

Pan fydd dau neu fwy o breswylwyr yn gydberchnogion neu’n gyd-denantiaid, mae’r ddau yn gyfrifol am dalu’r bil. Mewn rhai achosion, er enghraifft, tai ag amlddeiliadaeth, gall perchnogion nad ydynt yn preswylio yno fod yn atebol.

Sut gellir gwneud taliadau’r Dreth Gyngor?

Gallwch dalu eich Gorchymyn y Dreth Gyngor yn llawn ar ddechrau’r flwyddyn ariannol os hoffech chi. Fodd bynnag mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis talu 10 rhandaliad misol gan ddechrau yn Ebrill a gorffen ym mis Ionawr ar y 1af o’r mis.

Pryd sydd raid i mi dalu fy Nhreth Gyngor?

Mae hysbysiadau gorchymyn y Dreth Gyngor yn ddyledus mewn 10 rhandaliad misol o Ebrill i Ionawr. Mae’r dyddiad sydd raid i chi dalu eich rhandaliad bob mis i’w weld ar eich hysbysiad Gorchymyn y Dreth Gyngor. Bydd hyn fel arfer ar y 1af o bob mis.

Os wnewch chi dalu mewn Banc neu Swyddfa’r Post, neu anfon eich taliad drwy’r post, cofiwch na fyddwn yn derbyn eich taliad am rai dyddiau. Ystyriwch yr oedi hwn wrth i chi dalu yn un o’r ffyrdd hyn.

Beth os ydwyf yn byw ym Merthyr Tudful ond bod gen i gartref rywle arall?

Mae’r swm o’r Dreth Gyngor sy’n daladwy wedi ei weithio allan ar yr egwyddor o ‘unig neu brif breswylfa’. Mae’r person atebol ar gyfer unrhyw annedd fel arfer yn ‘breswylydd’; ar gyfer y Dreth Gyngor gall y person hwnnw fod yn breswylydd mewn un lleoliad yn unig - ei brif leoliad. Dyma pan fydd y Dreth Gyngor yn daladwy neu pan allai hawliadau am ostyngiad person sengl gael eu hystyried. Mewn rhai ardaloedd o’r DU mae hyn yn arwain at ostyngiad o 50% ar gyfer yr ‘ail’ gartref achos nid oes ‘preswylwyr’ ynddo.

Yng Nghymru, gellir cyflwyno rheolau arbennig ar gyfer anheddau wedi'u dodrefnu sydd heb drigolion. Ym Merthyr Tudful mae'r Cyngor wedi penderfynu na chaniateir disgownt ar gyfer anheddau yn y categori hwn.

Sut i ostwng eich bil

Mae’n bosibl y byddwn yn gallu eich helpu i ostwng eich bil:

  • Os ydych ar incwm isel (hyd yn oed os ydych yn gweithio) mae’n bosibl y byddwch yn gymwys am Ostyngiad i’r Dreth Gyngor
  • Os ydych yn byw ar eich pen eich hun, dylech fod yn derbyn gostyngiad person sengl sy’n gostwng eich bil gan 25%
  • Weithiau, gallwn roi gostyngiad i chi achos gallwn anwybyddu rhywun sy’n byw yn yr eiddo
  • Os ydych chi’n anabl, weithiau gallwn ostwng eich bil y dreth gyngor 

Efallai y gallwn gytuno i atodlen daliadau diwygiedig a fydd yn haws ichi gadw ati. Beth bynnag a wnewch, peidiwch ag anwybyddu'r broblem - gorau po gyntaf y byddwch yn cysylltu.

A allaf newid fy dyddiad talu?

Os yw eich dyddiad talu'n anghyfleus, ystyriwch dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol gan fod hyn yn rhoi dewis o 3 dyddiad talu i chi (1af, 10fed neu 20fed y mis). I wneud hyn, ewch i: Mynediad at eich cyfrif Treth Gyngor eich hun ar-lein.

Beth sy'n digwydd os na fyddaf yn talu fy Nhreth Gyngor?

Os byddwch yn derbyn llythyr am Dreth Gyngor di-dâl, peidiwch ag anwybyddu hynny - bydd yn gwneud pethau'n waeth yn unig a gall y swm sy'n ddyledus i chi gynyddu.

Nodyn Atgoffa

Rydych yn talu eich Treth Gyngor drwy randaliadau misol. Mae swm pob rhandaliad a’r dyddiad sy’n rhaid ei dalu erbyn i’w weld ar eich bil. Os na fyddwch yn talu eich rhandaliad ar y dyddiad y mae’n ddyledus byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch.

Os na fydd y taliadau a fethwyd yn cael eu talu o fewn 7 niwrnod, byddwch yn colli eich hawl i dalu’n fisol a bydd cyfanswm y pris sy’n weddill yn dyfod yn ddyledus. Os ar ôl colli nodyn atgoffa, eich bod yna yn diweddaru eich rhandaliadau ond yn cwympo tu ôl eto, caiff ail nodyn atgoffa ei anfon atoch.

Os byddwch yn cwympo tu ôl eto, byddwch yn derbyn hysbysiad terfynol (nid nodyn atgoffa arall) a bydd yr holl ddyled sy’n weddill yn ddyledus ymhen 7 niwrnod. Bydd methiant i dalu ar ôl derbyn unrhyw un o’r hysbysiadau hyn yn arwain at gŵyn yn cael ei wneud i’r Llys Ynadon ar gyfer cyflwyno gwŷs. Gall hyn arwain at weithredu adenilliad pellach yn cael ei gymryd yn eich erbyn.

Gwysion

Os ydych chi’n derbyn gwŷs mae’n ofynnol eich bod yn talu’r swm sy’n ddyledus, a chostau, ar unwaith. Os nad ydych yn talu’r balans cyflawn cyn dyddiad y gwrandawiad, bydd y Cyngor yn gwneud cais i’r Llys Ynadon ar gyfer gorchymyn atebolrwydd.

Bydd gennych yr opsiwn i wneud trefniadau i dalu’r swm sy’n ddyledus, yn cynnwys y costau. Rhaid i’r taliadau a gytunwyd gael eu gwneud ar amser os yw gweithredu adenilliad i gael ei atal.

Weithredu Adenilliad Pellach

Os, ar ôl y gorchymyn atebolrwydd, nad ydych wedi cysylltu â ni i wneud trefniant ar gyfer talu, byddwn yn rhoi Hysbysiad 14 Diwrnod i chi a rhaid ei chwblhau naill ai ar-lein (Holiadur Adfer Treth Gyngor), neu i'r cais papur gael ei gwblhau a'i dychwelyd yn ôl i yr Adran Refeniw.

Os ydych chi wedi sefydlu trefniant ond yn methu â chynnal y taliadau a gytunwyd, byddwn fel arfer yn casglu'r swm sy'n ddyledus gennych trwy:

Mae “atodiad” yn golygu y gallwn ofyn i bwy bynnag sy’n talu eich cyflog, neu fudd-daliadau i dynnu allan rhan o’r hyn sydd arnoch chi i ni cyn eu bod yn eich talu chi, nes bod yr arian sydd arnoch chi i ni yn cael ei dalu.

Os ydym yn pasio eich cyfrif i Asiant Gorfodi, bydd yn codi tâl arnoch am ymweld â’ch eiddo i gasglu’r arian sydd arnoch chi. Mae ganddo hefyd y pŵer i gymryd nwyddau i ffwrdd a’u gwerthu mewn arwerthiant i adfer y swm sydd arnoch chi.

 Byddwn fodd bynnag hefyd yn ystyried yr opsiynau canlynol

  • Gosod gorchymyn talu ar eich tŷ
  • Eich gwneud chi’n fethdalwr

 Os ydych chi’n cael trafferth talu eich bil Treth Gyngor, cysylltwch â ni ar unwaith.

Cysylltwch â Ni