Ar-lein, Mae'n arbed amser

Bandiau a Chostau Treth Gyngor

CBS Merthyr Tudful: £2,083.21
Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru: £378.67
Cost Merthyr: £2,461.88
Cyngor Cymunedol Trelewis / Bedlinog: £33.84
Cost Trelewis / Bedlinog: £2,495.72

Mae’r tabl canlynol yn dangos y lefel Treth Gyngor lawn ar gyfer pob band prisio. Mae cost Merthyr Tudful ar gyfer pob Plwyf ym Mwrdeistref Merthyr. Mae gan Trelewis a Bedlinog Gyngor Cymunedol lleol felly maent yn talu premiwm ychwanegol yn eu rhwymedigaeth Treth Gyngor.

1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026                                                                                              

Bandiau Merthyr Tudful Trelewis/Bedlinog
A £1,641.26 £1,663.82
B £1,914.80 £1,941.12
C £2,188.35 £2,218.43
D £2,461.88 £2,495.72
E £3,008.97 £3,050.33
F £3,556.05 £3,604.93
G £4,103.15 £4,159.55
H £4,923.77 £4,991.45
I £5,744.39 £5,823.35

Beth yw’r Dreth Gyngor?

Mae’r Dreth Gyngor yn helpu i dalu am y gwasanaethau mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn eu darparu ar gyfer pobl Merthyr Tudful.

Mae’r gwasanaethau’n cynnwys:

  • Addysg
  • Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Canolfannau Cymunedol
  • Goleuo Stryd
  • Casglu Sbwriel
  • Canolfannau Ieuenctid a Chwaraeon
  • Llyfrgelloedd
  • Pyllau Nofio

 Mae hefyd yn talu am ein cyfraniad at:

  • Yr heddlu
  • Tân ac amddiffyn dinesig
  • Trafnidiaeth gyhoeddus
  • Cael gwared ar wastraff a sbwriel

Sut mae cost fy Nhreth Gyngor yn cael ei gyfrifo?

Mae bil arferol y Dreth Gyngor yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar 50% elfen eiddo a 25% ar gyfer 2 (neu fwy) o bobl yn y breswylfa.

Mae eich Gorchymyn Treth Gyngor yn seiliedig ar fandio sy’n cael ei bennu gan y Swyddog Rhestru. Os ydych chi eisiau mwy o fanylion am eich bandio, cysylltwch:

Brif Brisiwr Cymru a Swyddog Prisio
Trethi Annomestig Cymru
Asiantaeth Swyddfa Brisio
Tŷ Rhodfa
Heol Tŷ Glas
Llanisien
Caerdydd
CF14 5GR

Rhif Ffôn: 03000 505505.  

Sut ydw i’n cael rhagor o wybodaeth?

Am wybodaeth bellach ewch i wefan Asiantaeth Swyddog Prisio

Ar gyfer yr holl wybodaeth arall am y Dreth Gyngor cysylltwch â ni ar 01685 725000 neu e-bostiwch revenues@merthyr.gov.uk