Ar-lein, Mae'n arbed amser

Sut mae'r arian a gesglir o Bremiymau y Dreth Gyngor yn cael ei wario?

Ar gyfer y cyfnod ariannol 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025:

  • Nifer yr eiddo gwag hirdymor = 340
  • Nifer yr eiddo Ail Gartrefi = 179
  • Swm yr incwm a gynhyrchir o godi premiwm ar yr eiddo hyn = £592,953

Fel y rhan fwyaf o incwm y cyngor, nid yw'n ofynnol i'r symiau a godir o godi premiymau y
Dreth Gyngor gael eu neilltuo i bwrpas penodol. Fodd bynnag, anogir awdurdodau lleol
gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio unrhyw refeniw ychwanegol a gynhyrchir i ddiwallu
anghenion ac amgylchiadau tai lleol yn yr ardal yn unol â bwriadau polisi'r premiymau.

Cyfeirir at yr anghenion tai lleol hyn ym Merthyr Tudful yn Strategaeth y Rhaglen Cymorth
Tai 2022-2026 ac mae'n ymdrin â swyddogaethau amrywiol gan gynnwys cymorth i bobl
ddigartref. Drwy annog perchnogion tai gwag ac ail gartrefi i ystyried defnydd amgen o'u
heiddo, gallwn hefyd annog cynlluniau fel y cynllun prydlesu preifat i ddod ag eiddo yn ôl
i ddefnydd a chynyddu'r cyflenwad o gartrefi yn lleol.

Wrth gwrs, nid yw gwariant ar y materion cysylltiedig hyn yn gyfyngedig i rôl yr adran dai
yn unig. Bydd adrannau eraill hefyd yn cymryd rhan, fel gwasanaethau cymdeithasol ac
iechyd yr amgylchedd.

Camau Gorfodi

Mae premiymau y dreth gyngor yr ydym wedi'u casglu wedi’n galluogi i weithio â
pherchnogion eiddo gwag i'w defnyddio unwaith eto.

Hyd yn hyn, rydym wedi gallu:

Dod â 43 eiddo yn ôl i ddefnydd rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025 trwy:

  • Cyfeirio perchnogion at y cynllun benthyciadau Tai i Gartrefi.
  • Paru darpar ddatblygwyr â pherchnogion eiddo gwag.
  • Darparu prawf o lythyrau statws gwag ar gyfer gostyngiad TAW ar gostau
    adnewyddu.