Ar-lein, Mae'n arbed amser

Pwy sy’n Gorfod Talu’r Dreth Gyngor

Rhyddfreinwyr y wlad a herio dyledion

Mae’r mudiad Rhyddfreinwyr y wlad (neu 'freeman on the land' yn Saesneg; weithiau fe’i ysgrifennir fel a ganlyn: 'freeman-on-the-land', 'FOTL', 'freemen of the land', the 'freemen movement', neu 'freemen') a grwpiau tebyg yn credu mai i’r cytundebau a’r cyfreithiau hynny maent yn cydynio â hwy, yn unig, y maent yn rhwym.

Nid yw cyfraith cytundeb, a hawliau a fynnir dan gyfraith gwlad, yr un peth â chyfreithiau sy’n ymwneud â’r dreth gyngor. Nid yw bod yn 'ryddfreiniwr' yn eithrio unrhyw un rhag talu'r dreth gyngor.

Nid ydych yn gallu ‘dewis’ talu’r dreth gyngor ai peidio.

You don't have a 'choice' as to whether you are liable for council tax.

Cyfrifoldeb dros Dalu’r Dreth Gyngor

Mae’r DRETH Gyngor yn talu am y gwasanaethau yn eich ardal. Hebddi, ni fyddem yn gallu darparu gwasanaethau hanfodol na chwaith rhoi cymorth i’r sawl mewn angen.

Yn y Deyrnas Unedig, mae cyfrifoldeb dros dalu’r dreth gyngor yn cael ei benderfynu gan Ddeddf Gyllid Llywodraeth Leol 1992.  Mae’r statud hon, a rheoliadau cyfreithiol eraill, yn gosod ein hawliau i fynnu treth gyngor er mwyn ariannu gwasanaethau a phwy sydd â chyfrifoldeb dros dalu. Crëwyd y ddeddf hon a’i rheoliadau gan senedd y Deyrnas Unedig a etholwyd yn ddemocrataidd ac sydd wedi ei gydnabod gan y Goron.

Nid yw eich cyfrifoldeb dros dalu treth cyngor yn ddibynnol ar, ac nid ydyw ychwaith yn galw ar, eich caniatâd na bodolaeth perthynas gytundebol gyda ni.

Mae unrhyw honiad i'r gwrthwyneb yn anghywir ac nid oes unrhyw sail gyfreithiol dros wneud y ddadl hon. Nid oes unrhyw sail gyfreithiol ychwaith i’r cyfeiriadau canlynol:

  • Person nad sydd wedi caniatáu i dalu’r dreth gyngor
  • nid oes perthynas cytundebol rhwng y Cyngor a’r trigolyn
  • gwrthryfel cyfreithiol
  • Cymal 61 o’r Magna Carta
  • Deddf Llw’r Coroni 1688
  • ‘Heddwch y Bobl’
  • ffuglen gyfreithiol, 'gwyr gwellt' a 'I, X o'r teulu Y'
  • Llys Cyfraith Gwlad Prydain Fawr
  • Llysoedd Cyfraith Gwlad Rhyngwladol
  • cyfraith forol neu'r Morlys
  • Cod masnachol unffurf

Gwrthod Taliadau’r Dreth Gyngor

Bydd unrhyw un sy'n gwrthod talu yn wynebu camau adennill yn eu herbyn.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y broses o godi treth gyngor arnoch, dylech geisio’r cyngor cyfreithiol priodol. Peidiwch â dibynnu ar ffynonellau o’r rhyngrwyd na datganiadau fforwm, a all fod yn anghywir neu'n gamarweiniol

Herio neu Apelio yn erbyn eich Cyfrifoldeb

Am wybodaeth ynghylch apelio yn erbyn bil treth gyngor, ewch i GOV.UK: apelio bil treth gyngor neu ddirwy

Bydd eich bil treth gyngor yn rhoi gwybod i chi pa fand prisio a roddwyd i’ch eiddo. Penderfynir ar eich band prisio gan Asiantaeth Swyddfa Brisio’r Deyrnas Unedig (Valuation Office Agency neu VOA yn Saesneg) – nid oes modd i Gyngor Sir Merthyr Tudful newid eich band prisio.

Mae copïau o hysbysiadau sydd wedi cael eu rhoi i chi ar gael ar-lein. Bydd angen i chi greu cyfrif cwsmer ar-lein, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y ddolen ganlynol - Y Dreth Gyngor Ar-lein | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Os ydych yn meddwl bod eich prisiad yn anghywir, gallwch herio eich band – ewch i GOV.UK: heriwch eich band treth gyngor

Rhaid i chi barhau i dalu eich treth gyngor hyd nes penderfynir ar ganlyniad yr apêl.

Nid yw gwneud apêl yn eich caniatáu i atal eich taliadau treth gyngor.

Deddfwriaeth

Mae’r gyfraith sy’n cwmpasu’r dreth gyngor ar wefan Ddeddfwriaeth y llywodraeth, yn cynnwys:

Mae deddfau seneddol yn 'statudau' sy'n gosod y gyfraith. Os oes gennych gwestiynau am ddeddfau neu ddeddfau seneddol eraill, dylech ofyn i weithiwr cyfreithiol proffesiynol, nid y cyngor.

Cred rhai bod defnyddio cyfreithiau hynafol yn golygu nad oes yn rhaid iddynt dalu’r dreth gyngor. Mae nifer o erthyglau a thempledi camarweiniol ar gael ar y rhyngrwyd parthed cyfreithlondeb treth gyngor. Dylech geisio cyngor cyfreithiol cyn eu defnyddio, neu cyn i chi ystyried unrhyw amddiffyniad yn erbyn eich cyfrifoldeb dros dalu treth gyngor, sy’n seiliedig ar gytundeb, caniatâd, a chyfraith gwlad.

Rydym yn cadw’r hawl i beidio ag ymateb i ymholiadau sy’n canolbwyntio ar ddadleuon damcaniaethol heb unrhyw sail mewn statudau, ac sy’n defnyddio ein hadnoddau ar draul trethdalwyr eraill. Mae hwn yn cynnwys llythyron a hysbysiadau a gyflwynir i unrhyw un o swyddogion y Cyngor gyda'r un rhesymeg.  

Os ydym yn derbyn gohebiaeth gennych yn honni nad oes gennych gyfrifoldeb dros dalu’r dreth gyngor am eich bod yn un o ryddfreinwyr y tir, neu nad ydych yn rhwym wrth gytundeb i dalu’r dreth gyngor, neu unrhyw reswm tebyg sydd heb sail gyfreithiol:

  • ni fyddwch yn derbyn ymateb gan ein Hadran Refeniw a Budd-daliadau - mae'r adran hon yn dosbarthu biliau treth gyngor ac yn delio â chasglu treth gyngor
  • bydd ein Hadran Gyfreithiol yn adolygu'r ohebiaeth ac yn anfon ymateb – ni fydd unrhyw ymatebion pellach yn cael eu hanfon mewn ymateb i unrhyw ohebiaeth nad oes iddi sail gyfreithiol.
  • os byddwch yn anfon gohebiaeth at unrhyw adran neu swyddog arall o fewn y cyngor, bydd eich gohebiaeth yn cael ei hanfon at yr adran gywir.

Byddwn yn anwybyddu unrhyw geisiadau am ymateb gan y Prif Weithredwr neu unrhyw swyddog arall. Oddi wrth yr adran gywir o fewn y Cyngor yn unig y byddwch yn derbyn ymateb, fel y nodir uchod.

Heriau a cheisiadau cyffredin gan ‘ryddfreinwyr’

Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb dros filio a chasglu treth gyngor, ond nid yw hwn yn golygu ei fod yn cyflwyno perthynas ymddiriedol – hynny yw, perthynas gyfreithiol neu foesol o ymddiriedaeth.

Isod ceir rhai o’r heriau a’r ceisiadau mwyaf cyffredin yn ogystal â’n hymatebion iddynt.

Her neu gais Ymateb

Rwy’n un o ryddfreinwyr y tir ac nid oes gen i gyfrifoldeb dros dalu’r dreth gyngor.

Nid yw bod yn un o ryddfreinwyr y tir yn golygu bod gan berson yr hawl i ddewis pa gyfreithiau maent yn glynu wrthynt a pha rai maent yn eu hanwybyddu.

Darparwch gytundeb cyfreithiol rhyngom wedi ei lofnodi gan y ddau ohonom.

Ystyrir rhai pobl treth gyngor fel cytundeb ac felly mae’n gofyn am gytundeb cyfreithiol gyda llofnod yn dynodi cydsyniad. Penderfynir ar dreth gyngor drwy statud – nid oes gofyn am gytundeb. Mae unrhyw gyfeiriad at y Ddeddf Cwmnïau, y Ddeddf Cytundebau, y Ddeddf Biliau Cyfnewid neu ddeddfau eraill yn ymwneud â chwmnïau neu gytundebau yn amherthnasol.

Darparwch dystiolaeth fy mod i wedi cytuno â chi y gallwch gasglu’r ddyled honadwy hon oddi wrthyf yn gyfreithiol.

Fel nodir uchod, mae’n ddadl amherthnasol oherwydd ni fu cyfnewid cytundeb na chydsyniad. Nid ydyw’r un o’r rhain yn ofynnol yn ôl y gyfraith er mwyn ardoll nac ychwaith er mwyn casglu’r dreth gyngor.
Darparwch dystiolaeth fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnaf i dalu'r dreth gyngor. Mae hierarchaeth pwy a ystyrir yn berson atebol wedi'i chynnwys yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 c14 Rhan 1, Pennod 1, Adrannau 6 i 9. Nid oes angen cytundeb unigol.

Darparwch dystiolaeth bod gennych yr awdurdod cyfreithiol a chytundebol i ddefnyddio’r enw ffuglennol “XXX” at ddibenion gwneud arian.

Pa un ai ydy enw’n gyfreithiol yntau’n ffuflennol, nid yw’n berthnasol at ddibenion treth gyngor. Mae’r dreth gyngor yn cael ei chodi ar, ac yn daladwy gan, bwy bynnag yw’r person atebol. Pennir hyn trwy gyfeirio at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Treth Gyngor (Gweinyddiaeth a gorfodaeth) 1992  

Darparwch gadarnhad bod y ddyled yn bodoli’n gyfreithiol.

Mae cyhoeddi Hysbysiad Galw’r Dreth Gyngor (y bil) yn creu'r ddyled. Nid oes angen llofnod neu gytundeb gan breswylydd ar gyfer y dreth gyngor. Treth ydyw, nid cytundeb.

Darparwch ddogfennau sydd â llofnod inc gwlyb.

Nid oes angen llofnod ar gyfer bilio’r dreth gyngor, ac nid yw llofnod inc gwlyb yn orfodol ar wŷs llys. Nid oes angen llofnod o unrhyw fath ar wŷs bellach, gan gynnwys rhai electronig.
Darparwch anfoneb Treth Ar Werth. Ystyrir bod y dreth gyngor y tu allan i faes TAW ac ni allwn ddarparu anfoneb TAW. Ein rhif TAW yw 655 842 705.

Nodwch a ydych yn gwmni yntau’n gorfforaeth.

Awdurdod lleol o fewn y sector gyhoeddus yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Nid oes gennym rif cwmni.