Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyngor ar barhad busnes

Parhad Busnes - Ydy hi'n angenrheidiol?

Os ydy Parhad Busnes yn gynsyiad newydd ar gyfer eich sefydliad mae sicrhau cefnogaeth uwch reolwr yn hollbwysig. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y broses wedi ymwreiddio'n llawn i ddiwylliant y sefydliad a bod parhad busnes yn dod yn rhan o faterion rheoli pob dydd y sefydliad yn hytrach na phrosiect cynllunio un tro.

Yn ogystal â bod yn gyfrifol am benderfynu ar ba swyddogaethau busnes sy'n bwysicach nag eraill, dylai uwch reolwyr hefyd sicrhau bod rheolwyr canol yn ymgysylltu â'r busnes.

Y broses parhad ymhob agwedd ar waith dyddiol dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, bydd gweithredu a hyrwyddo parhad busnes yn dod yn un o siath dyletswydd statudol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Am ragor o wybodaeth am Barhad Busnes, cyfeiriwch at wefannau UK Resilience, Business Continuity Institute neu'r Emergency Planning Society ar y cyfeiriadau canlynol:

Mae copi o Daflen Cyngor ar Barhad Busnes yr Uned ar gael o'r Ganolfan Ddinesig neu gallwch gysylltu â ni ar y manylion isod. 

Wyddoch chi?
  • Mae 80% o'r busnesau y mae digwyddiad mawr yn effeithio arnynt sydd heb gynllun parhad busnes naill ai erioed wedi arilagor neu wedi cau ymhen 18 mis
  • Amcangyfrifir bod 46% o fusnesau heb gynllun parhad busnes.
  • O'r rheini â chynllun, 30% yn unig sydd wedi'i brofi ac mae un o bump wedi'i brofi unwaith yn unig.
  • Mae bron i 1 ymhob 5 o fusnesau'n dioddef o darfu sylweddol bob blwyddyn.

Cysylltwch â Ni