Ar-lein, Mae'n arbed amser
Argyfyngau llifogydd
Byddwch yn Barod
Mewn llifogydd fe allwch gael eich hun heb olau, gwres na llinell ffôn. Bydd y gweithredoedd syml isod yn eich helpu i fod yn barod. Nawr yw’r amser i feddwl am hyn – peidiwch ag aros nes iddo ddigwydd. Y mwyaf parod yr ydych, y gorau y byddwch yn gallu ymdopi os fydd yn digwydd i chi neu eich teulu.
- Ewch i Asiantaeth yr Amgylchedd – Llifogydd i weld os ydych yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd
- Gwnewch yn siwr bod gennych chi yswiriant addas. Mae difrod llifogydd yn gynwysiedig yn y rhan fwyaf o bolisïau yswiriant adeiladau, ond gwiriwch eich yswiriant cartref a chynnwys.
- Yn ogystal â’ch Pecyn Argyfwng Cartref, cofiwch gynnwys menig rwber, esgidiau glaw, dillad sy’n dal dŵr
- Cadwch fanylion eich polisïau yswiriant a’r rhif cyswllt brys mewn lle diogel - fel rhan o’ch Pecyn Argyfwng Cartref os yn bosib
- Dewch i arfer cadw eitemau drud neu werthfawr yn y llofft neu mewn lle uchel
- Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod ble i ddifodd eich nwy a thrydan
- Os ydych yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd, meddyliwch am brynu bagiau tywod neu fwrdd llifogydd i rwystro drysau a brics aer. Ceir gwybodaeth ar sut i osod bagiau tywod yn effeithiol yng nghanllaw newydd Asiantaeth yr Amgylchedd ar atal llifogydd. Ewch i Environment Agency - Floods neu ffoniwch Floodline 0845 988 1188
Beth i'w wneud pan glywch rybudd
Gwrandewch am rybuddion ar y radio a'r teledu, a ffoniwch Floodline ar 0845 988 1188 neu ewch i Environment Agency - Floods am ragor o wybodaeth.
- Symudwch anifeiliaid anwes, cerbydau, eitemau gwerthfawr ac eitemau eraill i rywle diogel
- Rhybuddiwch eich cymdogion, yn arbennig pobl hŷn
- Gosodwch fagiau tywod neu fyrddau llifogydd - ond sicrhewch fod eich cartref wedi ei awyru'n iawn
- Byddwch yn barod i ddiffodd nwy a thrydan (gofynnwch am help gan rywun os oes angen)
- Gwnewch hynny a fedrwch yng ngolau dydd. Bydd gwneud pethau yn y tywyllwch yn llawer mwy anodd, yn arbennig ar ôl colli trydan
Byddwch yn ddiogel mewn llifogydd - Gwyliwch rhag peryglon llifogydd
Mae llifogydd yn gallu lladd. Peidiwch â cheisio cerdded na gyrru trwy lifogydd - gall chwe modfedd o ddŵr sy'n llifo'n gyflym eich taro oddi ar eich traed a bydd eich car yn nofio mewn dwy droedfedd o ddŵr. Fe all cloriau tyllau caead godi ac efallai bod peryglon eraill yn bodoli na allwch eu gweld.
Peidiwch bydd â cheisio nofio trwy ddŵr sy'n llifo'n gyflym - gallwch gael eich ysgubo i ffwrdd neu gael eich taro gan wrthrych yn y dŵr.
Dylech osgoi cyswllt gyda dŵr llifogydd - fe all fod wedi ei lygru gan garthffosiaeth.
Glanhau
Os ydych wedi dioddef llifogydd:
- Galwch Linell Gymorth Argyfwng (24 awr) eich cwmni yswiriant cyn gynted â phosib. Byddant yn gallu rhoi gwybodaeth ar sut i ddelio gyda'ch hawliad, a'ch helpu i ddod â phethau yn ôl i drefn
- Agorwch ddrysau a ffenestri i awyru eich cartref ond gofalwch fod eich cartref a'ch eitemau gwerthfawr yn ddiogel. Mae'n cymryd rhyw fis i un fodfedd o fricsen tŷ sychu
- Cysylltwch â'ch cwmni nwy, trydan a dŵr. Gwiriwch eich cyflenwadau pŵer cyn eu troi yn ôl ymlaen. Golchwch y tapiau a gadewch i'r dŵr redeg ohonynt am ychydig funudau cyn ei ddefnyddio
- Taflwch unrhyw fwyd, a all fod wedi dod i gysylltiad gyda dŵr llifogydd – fe all fod yn llygredig
- Byddwch yn ofalus o fasnachwyr ffug. Gwiriwch eu cyfeiriadau a cheisiwch gael geirda bob tro. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cynhyrchu tri chanllaw llifogydd i'r cyhoedd. Mae'r canllawiau'n rhoi cyngor ymarferol ar baratoi ar gyfer llifogydd a beth i'w wneud yn ystod ac yn dilyn llifogydd. Gellir archebu'r canllawiau trwy ffonio Floodline 0800 9881188 neu trwy fynd ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd