Ar-lein, Mae'n arbed amser

Piblinellau nwy

AROGLI NWY? – FFONIWCH 0800 111 999

Mae Rheoliadau Diogelwch Piblinellau 1996 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynhyrchu cynlluniau argyfwng neu addasu cynlluniau presennol i ymdrin â phiblinellau all achosi damwain fawr o ddamwain yn eu hardal. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn dweud wrth y Cyngor am y piblinellau y mae angen cynllun ar eu cyfer yn yr ardal.

Mae’r canlynol yn drosolwg o’r ymateb brys i ddigwyddiad â phiblinell, gan ddangos sut y bydd gweithdrefnau presennol amryw sefydliadau’n cael eu cymhwyso a’u cydlynu. Mae’n dilyn y fformat cenedlaethol a argymhellwyd ar gyfer Cynlluniau Diogelwch Piblinellau.

System Piblinellau

Y gweithredwr ar gyfer y piblinellau all achosi damwain fawr yn yr ardal yw’r Grid Cenedlaethol. Y cynnyrch a gaiff ei gludo yw nwy.

Mae’r Grid Cenedlaethol yn cyflenwi mapiau sy’n dangos llwybrau’r piblinellau a data i’r Tîm Cynllunio Argyfwng a Pharhad Busnes. Rhennir yr wybodaeth hon â’r Gwasanaeth Tân. Mae'r manylion a gofnodir yn cynnwys diamedr y twll, pwysau gweithredu ac offer uwch y ddaear megis falfiau a gorsafoedd pwmpio. Am resymau diogelwch nid yw’r wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd. Gall yr Uned Gwytnwch Leol ofyn am y Ddogfen Atal Damwain Piblinellau Fawr sy’n cynnwys yr wybodaeth uchod gan y Grid Cenedlaethol.

Perygl ac Effaith

Gellir adnabod digwyddiad sy’n ymwneud â phwysau uchel mewn piblinell trwy’r nodweddion canlynol:

Rhyddhau nwy – Bydd difrod sylweddol i Biblinell all Achosi Damwain Fawr sy’n gwneud twll neu rwyg yn y biblinell yn arwain at ryddhau nwy naturiol cywasgedig. Mae pob piblinell sy’n gweithredu o dan 75 bar (a ddefnyddir ar gyfer y System Drawsgludo Genedlaethol) yn cynnwys nwy sy’n arogli.

Os caiff ei danio gall achosi perygl ymbelydredd thermol i unigolion yn y cyffiniau. Gall y tanio fod ar unwaith , neu’n hwyr ond digwydd yn lleol, neu’n hwyr ond digwydd o bell neu ddim o gwbl. Gall pob un arwain at ganlyniadau gwahanol, cwmpas perygl gwahanol ac am hyd wahanol ac oherwydd hyn, bydd amser a threfn unrhyw ddigwyddiad yn amrywio.

Cyfnod o biblinellau’n gollwng – Pan fo piblinell gwasgedd uchel yn methu, maent yn colli gwasgedd yn syth ac yn gyflym mewn eiliadau ac mae llif sefydlog yn dilyn hyn wrth i’r biblinell ddadlwytho oherwydd y gollwng ac oherwydd bod nwy’n parhau i gael ei bwmpio i mewn i’r biblinell. Gall y llif bara sawl awr yn dibynnu ar leoliad a siâp y tir lle mae’r biblinell a’r amser y mae’n cymryd i bobl y Grid Cenedlaethol gyrraedd i gau’r falfiau nad ydynt wedi’u cau o bell o Ganolfan Reoli’r Grid Cenedlaethol.

Effeithiau Chwyth a Thaflegrau – Gall y chwyth o’r gwasgedd adeg y methu fod yn sylweddol yn agos at y biblinell, gall y deunydd sy’n gorchuddio’r biblinell gael ei daflu i’r awyr ar gyflymdra uchel iawn, ond bydd yr effeithiau difrifol yn gwanhau o bellter. Gall tanio hwyr arwain at ffenestri gwydr yn chwalu oherwydd gorwasgedd y chwyth.

Tân a Ffrwydrad – Bydd unrhyw nwy a ryddheir sy’n tanio yn achosi fflach, a allai arwain at effeithiau difrifol yn sgil ymbelydredd thermol. Gall pobl gael eu cysgodi tu fewn ond gall lefelau ymbelydredd fod yn ddigon i adeiladau fynd ar dân. Mae technegau ar gael i amcangyfrif yr ymbelydredd thermol o faint bras o nwy a ryddheir dros amser. Mae risg o danio pan fo unrhyw fath o ddiffyg yn y piblinellau, ond o brofiad nid yw’r nwy yn tanio gan amlaf.

Os nad yw nwy a ryddheir yn tanio ar unwaith byd yn ffurfio cwmwl, a fydd yn gwasgaru dros bellteroedd mawr. Os yw cwmwl o nwy yn tano gallai losgi’n ôl megis fflach dân i’r tarddiad. Wrth iddo wasgaru bydd yr aer yn ei wanhau, a bydd y crynodiad yn disgyn islaw’r lefel ffrwydro isaf pan na fydd bellach yn berygl tân. Mae’r pellter y mae rhyddhad nwy o’r fath yn gwasgaru’n dibynnu ar y math o ryddhau a’r amodau tywydd.

Gellid amcangyfrif crynodiadau a hyd gan ddefnyddio modelu plu.

Mae’n bwysig na ddiffoddir nwy sydd wedi tanio oni ofynnir am wneud yn benodol gan reolwr y Grid Cenedlaethol ar y safle.

Sŵn – Mae rhyddhau gwasgedd uchel o nwy’n creu llawer o sŵn a all fod yn ddwys iawn gan arwain at niwed dros dro i’r clyw. Gall lefelau uchel o sŵn hefyd arwain at golli syniad o leoliad ac ymddygiad annisgwyl mewn rhai pobl.

Cwmpas y Perygl a Phellteroedd Cynllunio Argyfwng – Mae’r Grid Cenedlaethol wedi cyfrifo gwybodaeth perygl o ran ymbelydredd thermol. Mae’r Gwasanaeth Tân wedi cael copi o’r wybodaeth hon ac mae ar gael i adrannau cynllunio mewn awdurdodau lleol.

Rhoi Cynllun Ar Waith

Yn sgil natur eithafol diffyg piblinell gwasgedd uchel, mae’n debygol mai aelod o’r cyhoedd bydd yn dweud am y digwyddiad yn gyntaf trwy ffonio 999 neu’r rhif argyfwng nwy.

Bydd y Gwasanaethau Brys a’r Grid Cenedlaethol yn dilyn eu systemau safonol i ymchwilio i adroddiadau. Os ar unrhyw adeg maent yn nodi bod angen rhagor o adnoddau, gwneir penderfyniad ar y cyd i ddweud wrth sefydliadau eraill a chydlynu’n ehangach. Mae’r broses hwn yn dilyn yr un drefn ag ar gyfer digwyddiadau mawr eraill.

Cysylltwch â Ni