Ar-lein, Mae'n arbed amser

Paratoi at argyfyngau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi paratoi Cynllun Digwyddiad Mawr sy'n gallu delio gyda digwyddiadau o amrywiaeth eang o argyfyngau mawr.

Mae'r Cynllun Digwyddiad Mawr yn darparu fframwaith ar gyfer ymateb brys gan yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân a'r gwasanaeth Ambiwlans i unrhyw drychineb fawr a all ddigwydd o fewn y Fwrdeistref Sirol.

Mae'r cynllun hwn yn ddogfen generig sydd wedi ei gynllunio fel canllaw i ymateb.  Mae digwyddiadau'n amrywio'n fawr o ran y raddfa o ymateb sydd ei angen a'r effaith ar y Gymuned.  Bydd asiantaethau sy'n ymateb yn defnyddio gwybodaeth a phrofiad i ddelio gydag unrhyw ddigwyddiad mewn modd hyblyg.

Cysylltu â Ni

Os hoffech wybodaeth bellach neu os hoffech gysylltu â'r Uned Cydnerth Lleol, defnyddiwch y manylion isod:

Uned Cydnerth Lleol
Uned 5, Parc Busnes Triongl
Pentrebach
Merthyr Tudful
CF48 4TQ

Rhif Ffôn: 01685 725162/725462
Rhif Ffôn Argyfwng: 01685 385231 (ar gyfer argyfwng y tu allan i oriau swyddfa)

Cysylltwch â Ni