Ar-lein, Mae'n arbed amser
Prevent
Ein nod yw amddiffyn a helpu unrhyw un sydd mewn perygl o gael ei radicaleiddio, cyn cyflawni trosedd.
Mae radicaleiddio yn golygu rhywun yn datblygu safbwyntiau neu gredoau eithafol sy’n cefnogi grwpiau neu weithgareddau terfysgol. Mewn rhai achosion, mae person neu grŵp yn manteisio ar radgueddiadau person. Ar adegau eraill, mae radicaleiddio yn cael ei yrru gan gredoau ideolegol. Gall pobl hefyd hunan-radicaleiddio ar-lein.
Gall radicaleiddio ddigwydd i unrhyw un, a dyna pam mae’n bwysig meithrin gwytnwch ac ymwybyddiaeth yn ein cymunedau.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag:
- ysgolion,
- colegau,
- yr heddlu,
- sefydliadau cymunedol,
- elusennau, a
- gweithwyr rheng flaen, fel ymarferwyr gofal iechyd a gweithwyr cymdeithasol
Ein hamcanion
Mae tri phrif amcan i'r Strategaeth Prevent Genedlaethol:
- Mynd i'r afael ag achosion ideolegol terfysgaeth.
- Ymyrryd yn gynnar i helpu pobl sy'n agored i radicaleiddio.
- Galluogi'r rhai sydd eisoes wedi cymryd rhan mewn terfysgaeth i ymwrthod â hyn ac adsefydlu.
Channel
Channel yw rhaglen ddiogelu ymyrraeth gynnar Prevent.
Mae Channel yn cynnig cefnogaeth bwrpasol i blant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu radicaleiddio. Gallai'r gefnogaeth a gynigir gynnwys:
- mentora,
- arweiniad diwinyddol ac ideolegol,
- addysg a
- cymorth gyrfa.
Mae' Channel yn wirfoddol ac yn gyfrinachol. Mae'n rhaid i bobl sy'n cael eu cyfeirio roi caniatâd cyn i ni allu eu helpu. Os yw'r person dan 18 oed, gall rhiant neu warcheidwad roi caniatâd ar eu rhan.
Os ydych chi'n poeni am rywun yn cael ei radicaleiddio
Os ydych chi'n poeni bod rhywun (o unrhyw oedran) yn cael ei radicaleiddio, neu ei fod yn ymwneud ag eithafiaeth neu derfysgaeth neu'n eu cefnogi, rhannwch eich pryderon fel y gall yr unigolyn gael cefnogaeth.
Gallwch gael arweiniad a chefnogaeth ar wefan GOV.UK.
Sut i wneud atgyfeiriad
Os oes gennych bryderon am rywun yn cael ei radicaleiddio, llenwch Ffurflen Atgyfeirio Partneriaid Prevent Cymru Gyfan.
Os gwelwch unrhyw beth amheus, cysylltwch â’r:
- Heddlu ar 999
- Llinell Gymorth Gwrthderfysgaeth Genedlaethol ar 0800 789 321
Beth fydd yn digwydd nesaf
Os oes risg wirioneddol y bydd y person yn cael ei radicaleiddio, bydd yr achos yn cael ei gyfeirio at Banel Channel. Mae Panel Channel yn cynnwys gweithwyr proffesiynol sy'n asesu'r achos ac yn penderfynu pa gymorth pwrpasol y gellir ei gynnig i'r person.
Rhoi gwybod am rywbeth rydych wedi'i weld ar-lein
Os ydych chi wedi gweld gwybodaeth, lluniau neu fideos anghyfreithlon neu niweidiol ar-lein, gallwch roi gwybod am y deunydd ar-lein ar GOV.UK.
Gwybodaeth gan sefydliadau eraill
Gallwch gael mwy o wybodaeth a chyngor gan wahanol sefydliadau ac asiantaethau.
- Hwb Llywodraeth Cymru – cadw'n ddiogel ar-lein
- Educate against hate – gwybodaeth i ysgolion a rhieni
- Swyddfa Gartref - Taflen Prevent a Channel
- Support for victims of terrorism
- Heddlu De Cymru – Cadw’n ddiogel rhag terfysgaeth
- Llywodraeth y DU – Strategaeth Prevent (2011)