Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cefnogaeth i Wcráin.
PROTOCOL Y CYFRYNGAU/ GWYBODAETH AR GYFER Y WASG
Credwn ei bod yn bwysig sicrhau bod newyddion positif yn cael eu rhannu gyda’r cyfryngau Cymreig, ond byddwn bob amser yn sicrhau bod urddas a phreifatrwydd unigolion a theuluoedd yn cael ei gynnal yn ein Bwrdeistref Sirol.
Rydym yn ymwybodol bod y cyfryngau yn awyddus iawn i wybod sut mae pethau’n mynd gyda’r cynllun ffoaduriaid o’r Wcráin. Ond, mae diogelwch y ffoaduriaid o bwysigrwydd mawr i ni fel awdurdod. Mae gennym hefyd gyfrifoldeb fel Cyngor i liniaru'r tebygrwydd o gam wybodaeth a throsedd casineb, felly, mae’r rheolau a’r camau canlynol mewn lle:
- Fyddwn ni ddim yn cyhoeddi lleoliad canolfannau croeso na chartrefi yn ein cyfathrebiad er mwyn diogelu'r unigolion fydd yn byw yno. Rydym wedi gweld sawl sylw negyddol yn ceisio amharu ac achosi pryder i bobl yn cyrraedd.
- Gofynnwn i’r cyfryngau beidio cysylltu yn uniongyrchol gyda theuluoedd o’r Wcráin yn y fwrdeistref.
- Trafod cyfleoedd cyfweliad cyfryngau efo ni a bod yn glir, fel bod unigolion/ teuluoedd yn gallu gwneud penderfyniad gwybodus os ydynt yn gartrefol gyda hyn.
- Byddwn yn gofyn am gwestiynau'r newyddiadurwr o flaen llaw er mwyn craffu ar naws, iaith, stereoteip ayyb mewn perthynas â’r sefyllfa newidiol hon.
Cefnogaeth i geiswyr lloches o’r Wcráin.
Sut gallwch chi roi cymorth i breswylwyr o’r Wcráin sydd wedi eu heffeithio gan y rhyfel
Cartrefi ar gyfer ceiswyr lloches o’r Wcráin: cofrestru diddordeb
Os ydych eisiau cynnig cartref i bobl yn ffoi o’r Wcráin, gallwch ddod yn ‘noddwr’ fel rhan o raglen Gartref i Wcráin. Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gofrestru eich diddordeb i fod yn noddwr. Gallwch gofrestru fel unigolyn neu fudiad ar Governments Homes for Ukraine: register your interest page (Saesneg yn unig).
Ceisio am fisa Rhaglen Teulu o’r Wcráin.
Mae Rhaglen Teulu o’r Wcráin yn galluogi ceiswyr i ymuno gyda theulu neu ymestyn eu harhosiad yn y DU. Dysgwch fwy ar Governments Apply for a Ukraine Family Scheme visa page (Saesneg yn unig).
Ffyrdd eraill o helpu:
Os ydych eisiau cefnogi ond yn methu cynnig lle i aros, gallwch gyfrannu at y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (Saesneg yn unig). Mae’r grwpiau yma o elusennau yn gweithio yn Wcráin a gwledydd cyfagos i ddarparu anghenion fel bwyd, dŵr, lloches a chefnogaeth feddygol.
Gall pobl gyfrannu trwy apêl Wcráin. Gall pobl gyfrannu trwy’r Disasters Emergency Committee (DEC). Dyma yw'r ffordd orau i gefnogi yn hytrach na chyfrannu nwyddau, oherwydd gall hyn achosi problemau cludo.
Gellir dod o hyd I Ganllawiau Llywodraeth Cymru ar dudalen Llywodraeth Cymru Wcráin: cymorth i bobl yr effeithir arnynt.
Newyddion a Gwybodaeth
25.03.2022
Noddfa: Helpu ffoaduriaid i ddeall eu hawliau
18.03.2022
Datganiad Ysgrifenedig: Yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i ffoaduriaid Wcráin
Mae pobl sy’n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin wedi dechrau cael eu paru â lloches ddiogel yng Nghymru a’r DU, o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin.
16.03.2022
Cymru yn cynnig teithio am ddim ar drenau i ffoaduriaid Wcráin
08.04.2022
https://llyw.cymru/cymru-yn-uwch-noddwr
21.04.2022
Cefnogaeth DWP i ffoaduriaid o Wcrain sy'n cyrraedd y DU:
SUPPORT FOR THOSE FLEEING THE CONFLICT IN UKRAINE - Understanding Universal Credit
26.04.2022
Cymorth recriwtio ReStart gan Busnes Cymru i fusnesau sydd am gefnogi ffoaduriaid o Wcrain -
Ydych chi am fanteisio ar sgiliau newydd a helpu eich cwmni i fod yn fwy cynhwysol ac amrywiol? Gallai cyflogi ffoadur fod o fantais i’ch busnes. businesswales.gov.wales/cy/AilGychwyn
10/05/2022