Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mynediad at Waith
Gall Mynediad at Waith eich helpu i gael neu aros mewn gwaith os oes gennych gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol neu anabledd.
Bydd y gefnogaeth a gewch yn dibynnu ar eich anghenion. Trwy Mynediad at Waith, gallwch wneud cais am:
- grant i helpu i dalu am gymorth ymarferol gyda'ch gwaith
- cymorth i reoli eich iechyd meddwl yn y gwaith
- arian i dalu am gymorth cyfathrebu mewn cyfweliadau swyddi
Mae'r canllaw hwn hefyd ar gael mewn fformat Cymraeg, Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a fformat Hawdd ei Ddarllen.
Cymorth ymarferol gyda'ch gwaith
Gallai Mynediad at Waith roi grant i chi helpu i dalu am bethau fel:
- offer arbenigol a meddalwedd cynorthwyol
- gweithwyr cymorth, fel cyfieithydd BSL, hyfforddwr swyddi neu ffrind teithio
- costau teithio i'r gwaith, os na allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
- addasiadau i'ch cerbyd fel y gallwch fynd i'r gwaith
- newidiadau corfforol i'ch gweithle
Gall eich gweithle gynnwys eich cartref os ydych chi'n gweithio oddi yno rywfaint neu'r holl amser.
Nid oes ots faint rydych chi'n ei ennill. Os cewch grant Mynediad at Waith, ni fydd yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill a gewch ac ni fydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl.
Efallai y bydd angen i chi neu'ch cyflogwr dalu rhai costau ymlaen llaw a'u hawlio'n ôl yn nes ymlaen.
Sut i wneud cais
Gwiriwch eich bod yn gymwys ac yna gwneud cais am grant Mynediad at Waith.
Cymorth iechyd meddwl
Gallwch gael cymorth i reoli eich iechyd meddwl yn y gwaith, a allai gynnwys:
- cynllun wedi'i deilwra i'ch helpu i gael neu aros mewn gwaith
- sesiynau un-i-un gyda gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol
Sut i wneud cais
Gwiriwch eich bod yn gymwys ac yna gwnewch gais yn uniongyrchol i naill ai Able Futures neu Maximus.
Cymorth cyfathrebu ar gyfer cyfweliadau swyddi
Gall Mynediad at Waith helpu i dalu am gymorth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd os:
- rydych chi'n fyddar neu'n drwm eu clyw ac angen cyfieithydd BSL neu lipspeaker
- oes gennych gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol neu anhawster dysgu ac angen cymorth cyfathrebu
Darganfyddwch fwy a gwneud cais am gymorth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd.
Beth na fydd Mynediad at Waith yn talu amdano
Ni fydd Mynediad at Waith yn talu am addasiadau rhesymol. Dyma'r newidiadau y mae'n rhaid i'ch cyflogwr eu gwneud yn gyfreithiol i'ch cefnogi i wneud eich gwaith.
Bydd Mynediad at Waith yn cynghori eich cyflogwr os dylid gwneud newidiadau fel addasiadau rhesymol.