Ar-lein, Mae'n arbed amser
Canllawiau ar geisiadau
Gwybodaeth i Ymgeiswyr
Sylwch y bydd cwblhau cais yn ei gyfanrwydd yn rhoi'r cyfle gorau i chi sefyll allan ymhlith yr holl ymgeiswyr. Bydd panel y rhestr fer yn defnyddio'ch ffurflen gais yn erbyn meini prawf y rhestr fer a restrir yn y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb y Person er mwyn gwneud penderfyniad ynghylch a ydych ar y rhestr fer a'ch dewis ar gyfer cyfweliad. Mae'n bwysig eich bod yn cofio cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol. I gefnogi'ch cais yn llawn, darllenwch yr hysbyseb swydd yn ofalus, y swydd ddisgrifiad, manyleb person ac unrhyw wybodaeth arall sydd wedi'i rhestru. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am rolau penodol, yna gellir dod o hyd i fanylion y Rheolwyr Recriwtio yn y Pecynnau Recriwtio.
Sylwch na fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r ceisiadau a gyflwynir yn y Saesneg.
Peidiwch ag anfon CV gan na fyddwn yn derbyn y rhain ac ni fyddwch yn cael eich ystyried.
Nodiadau Canllawiau
Cyflogwr presennol neu fwyaf diweddar
Rhowch fanylion eich hanes cyflogaeth llawn a chynnwys disgrifiad byr o'ch dyletswyddau a'ch cyfrifoldebau.
Cyflogaeth flaenorol
Rhowch fanylion yr holl hanes cyflogaeth gyda dyddiadau perthnasol.
Wrth gwblhau eich hanes cyflogaeth, mae'n bwysig rhestru unrhyw fylchau yn eich cyflogaeth e.e. Medi 2016 – Gorffennaf 2018 (mynd i'r Brifysgol), Ebrill 2020 – Awst 2020 (ffyrlo), Ionawr 2019 – Mawrth 2019 (di-waith)
Hyfforddiant, Galwedigaeth, Cymwysterau Galwedigaethol ac Aelodaeth o Gyrff Proffesiynol Cydnabyddedig
Rhowch fanylion unrhyw hyfforddiant, profiad gwaith neu waith gwirfoddol perthnasol a/neu aelodaeth i gyrff proffesiynol perthnasol e.e. y Cyngor Gofal, Cyngor y Gweithlu Addysg
Eich Cymwysterau
Rhowch fanylion eich addysg neu hyfforddiant a graddau a gyflawnwyd. Gall hyn gynnwys cymwysterau fel TGAU, Lefel A, BTEC, HNC/HND, NVQ, Graddau.
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
Gwybodaeth bellach
Y 'wybodaeth bellach i gefnogi eich cais' yw rhan bwysicaf eich ffurflen gais gan y dylai amlinellu pam eich bod yn addas ar gyfer y swydd. Darllenwch yr hysbyseb swydd, y swydd ddisgrifiad a manyleb y person yn ofalus ac ehangu ymhellach ar sut yr ydych y neu bodlonigan roi sylw manwl i'r Meini Prawf Hanfodol a Dymunol. Mae'n ddefnyddiol cynnwys enghreifftiau i gefnogi'ch cais gan nad yw nodi 'Mae gen i sgiliau TGCh gwych' neu 'Mae gen i Sgiliau Gwasanaethau Cwsmeriaid rhagorol' yn ddigon o dystiolaeth i'w dangos i ni.
Gallai enghreifftiau gynnwys:
Mae gen i sgiliau TGCh gwych ac mae gen i Safon Uwch mewn Cyfrifiadureg. Rwyf wedi arfer defnyddio amrywiaeth o becynnau TGCh fel Microsoft Office, Excel, Outlook, PowerPoint gan fy mod wedi gorfod defnyddio'r rhaglenni hyn i gyflwyno cyflwyniadau a chynnal adroddiadau i gyflwyno'r canfyddiadau i'm Rheolwr .
Mae gen i Sgiliau Gwasanaethau Cwsmeriaid rhagorol ac mae gen i NVQ Lefel 2 ffurfiol mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid. Mae fy rôl bresennol wedi'i lleoli mewn canolfan alwadau ac mae fy nyletswyddau'n cynnwys siarad â chwsmeriaid yn rheolaidd trwy alwadau ffôn neu sgwrs ar y we. Mae hyn yn golygu bod disgwyl i mi gynnal agwedd broffesiynol gan fy mod yn delio â chwsmeriaid sy'n gallu mynd yn rhwystredig.
Mae hefyd yn bwysig cofio y dylid cynnwys unrhyw brofiad neu sgiliau rydych wedi'u hennill o gyfleoedd eraill y tu allan i gyflogaeth â thâl neu addysg ffurfiol (cyhyd â'i fod yn berthnasol i'r rôl). Dyma'ch cyfle i werthu'ch hun a dweud wrthym pam y dylem eich cyflogi.
Geirda
Fel rhan o'n Polisi Recriwtio a Dethol, bydd angen dau eirda boddhaol arnom, gydag un geirda gan eich cyflogwr presennol neu fwyaf diweddar. Bydd angen 3 geirda ar ymgeiswyr sy'n gwneud cais am swyddi gweithwyr cymdeithasol.
Os nad ydych yn gweithio ar hyn o bryd, bydd angen eich cyflogwr olaf neu eirda proffesiynol (Ysgol/Coleg/Prifysgol, sefydliad gwirfoddol).
Os nad ydych erioed wedi cael eich cyflogi, bydd angen geirda dau gymeriad arnom a gellir cael y rhain gan athro neu diwtor yn eich Ysgol, Coleg, Prifysgol neu rywun rydych wedi ei adnabod am 2+ mlynedd (fodd bynnag, ni ddylai hyn fod yn rhywun sy'n perthyn i chi).
Euogfarnau troseddol
Mae Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 yn amlinellu, wrth wneud cais am swyddi, nad oes angen i chi ddatgelu unrhyw euogfarnau troseddol 'sydd wedi darfod'. Fodd bynnag, mae rhai swyddi wedi'u heithrio o ddarpariaethau'r Ddeddf hon sy'n golygu bod yn rhaid i chi ddatgan ar y ffurflen gais yr holl gollfarnau troseddol, rhybuddion a cheryddon sydd gennych boed y rhain wedi dirwyn i ben ai peidio. Sylwer, os na fyddwch yn datgelu unrhyw euogfarnau troseddol yn y ffurflen gais y cawn wybod yn ddiweddarach amdanynt a gellir dirymu unrhyw gynnig o gyflogaeth.
Datganiad o fuddiannau
Wrth lenwi eich ffurflen gais gyda'r Cyngor, gofynnir i chi fanylu ar unrhyw berthynas sydd gennych ag aelod etholedig neu uwch swyddog y Cyngor. Bydd hefyd yn ofynnol i chi ddatgan a ydych yn aelod etholedig o'r Cyngor yn y 12 mis diwethaf neu wedi bod yn aelod etholedig o'r Cyngor yn ogystal â datgelu unrhyw fusnes neu fuddiannau eraill a allai achosi gwrthdaro buddiannau gyda'r rôl rydych yn gwneud cais amdani.
Cynllun Cyfweliad Gwarantedig
Yma, yng Nghyngor Merthyr Tudful, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain yn Gyflogwr o Ddewis. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal ym mhob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ymgeiswyr o bob grŵp a chefndir i wneud cais ac ymuno â ni. Rydym wedi ymrwymo'n gryf i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle a sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dethol ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd a mynegiant a beichiogrwydd a mamolaeth.
Rydym wedi cyflawni statws Lefel 2 o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn mynd ati i hyrwyddo ein hymrwymiad. Fel rhan o hyn, bydd unrhyw ymgeisydd sy'n uniaethu ag anabledd ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol hanfodol yn cael cynnig cyfweliad gwarantedig. Bydd ein tîm Recriwtio yn cysylltu â chi a gofynnir i chi cyn mynychu cyfweliad os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch er mwyn cyfranogi.
Mae CBS Merthyr Tudful yn falch o gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog gan gynnal egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog. Mae gweithredu'r Cynllun Cyfweliad Gwarantedig yn dyst i'n hymrwymiad parhaus, yn enwedig wrth i ni geisio Gwobr Aur anrhydeddus Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Lluoedd Arfog. Er nad yw'n orfodol, mae'r Cynllun Cyfweld Gwarantedig yn arwydd sylweddol o gefnogaeth i Gymuned y Lluoedd Arfog.
Mae'r fenter hon wedi'i chynllunio ar gyfer pobl sy'n gadael y gwasanaeth, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn sy'n cyflawni'r meini prawf hanfodol a amlinellir ym manylebau cyflogaeth y Cyngor. Mae'n sicrhau bod yr unigolion hyn yn cael cyfweliad am unrhyw swydd sydd ar gael, gan atgyfnerthu'r cwlwm cryf rhwng y Cyngor a'r Lluoedd Arfog.
Bydd lansio ein Cynllun Cyfweliad Gwarantedig newydd yn hwyluso trosglwyddo cymuned a chyn-filwyr y Lluoedd Arfog ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i rolau sifil, gan liniaru'r heriau y maent yn eu hwynebu ar ôl gwasanaethu. Mae'r fenter hon hefyd yn mynd i'r afael â'r problemau iechyd a lles posibl sy'n gysylltiedig â diweithdra hirdymor.
Mae'r Cyngor hefyd yn cael budd o'r gronfa amrywiol o ymgeiswyr sydd nid yn unig yn bodloni'r gofynion hanfodol ond sydd hefyd yn dod â chyfoeth o sgiliau trosglwyddadwy gyda hwy.
Cymorth Cyflogaeth
Darparu Cymorth Cyflogaeth a mentora 1-i-1, yn cynorthwyo ag ysgrifennu CV, ffurflenni cais, edrych am swyddi, hyfforddiant, lleoliadau, paratoi at gyfweliadau a chymorth i ddechrau gwaith.