Ar-lein, Mae'n arbed amser
Swyddi Gwag Presennol
Swyddi: Warden Amgylcheddol y Bartneriaeth Natur Leol (wedi'i ariannu gan y BNL)
Cyfeirnod y swydd: RE-1771
Cyflog: £28,163.00 - I: £30,060.00
Graddfa Swydd: Gradd 4 / Grade 4
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Wedi'i leoli yn Uned 20 Pentrebach / Based at Unit 20 Pentrebach
Arbenigol:
Tymor Penodol tan 31 Mawrth 2027
Warden Amgylcheddol y Bartneriaeth Natur Leol (wedi'i ariannu gan y BNL)
Wedi'i leoli yn Uned 20 Pentrebach ond hefyd yn unrhyw Depo o fewn y Gwasanaethau Cymdogaeth
Cyflawni gwelliannau syml, ar raddfa fach i fannau agored y Fwrdeistref Sirol. Mae'r mannau yn ddwy haen fel y'u diffinnir yng Nghynlluniau Gweithredu Strategaeth Mannau Agored Merthyr Tudful (2016) ac mae amcanion diffiniedig i bob un ohonynt wedi'u priodoli, sydd ochr yn ochr â thargedau'r Cynllun Adfer Natur (2019-2024)
Gweithio ar brosiectau cynnal a chadw tiroedd, rheoli blodau gwyllt, cynnal a chadw pyllau a chyrsiau dwr, plannu rhywogaethau brodorol. I weithio gyda'r gwirfoddolwyr cymunedol i'w helpu i sefydlu cynlluniau gwella amgylcheddol.
Cynorthwyo yn nod y cyngor o wella bioamrywiaeth yn unol â'r Cynllun Adfer Natur (2019-2024). Gweithio ochr yn ochr â staff presennol eraill i sefydlu a gweithredu cyfundrefnau cynnal a chadw sy'n cynorthwyo peillwyr a thrwy hynny ddod â newid yn y ffordd y mae'r amgylchedd yn cael ei weld a'i reoli er budd natur. Ennyn diddordeb cymunedol ac annog gwirfoddolwyr i gymryd rhan yn eu hamgylchedd.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Gillian Hampson ar 01685 725000 neu ebostiwch Gillian.Hampson@merthyr.gov.uk
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 08.05.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.