Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Cynorthwyydd Gweinyddol
Cyfeirnod y swydd: RE-1767
Cyflog: £25,584.00 - I: £27,711.00
Graddfa Swydd: Gradd 3 / Grade 3
Oriau Swyddi: 18.5 Awr /18.5 Hours
Lleoliad: Parc Iechyd Keir Hardie / Canolfan Dinesig - Keir Hardie Health Park/ Civic Centre
Arbenigol:
Oriau: 18.5 awr
Cyflog: Gradd 3 SCP 7-12 = £25,584 - £27,711 y flwyddyn pro rata
18.5 Oriau = 50% = £12,792 - £13,855 y flwyddyn

Darparu cymorth gweinyddol i sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd, effeithlon ac effeithiol yn cael ei ddarparu i'r Timau Gwaith Cymdeithasol Gwasanaethau Oedolion
Bodloni swyddogaethau statudol yr Awdurdod Lleol.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Serena Williams ar 01685 725000 neu ebostiwch Serena.Williams@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 08.05.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.