Ar-lein, Mae'n arbed amser
Swyddi Gwag Presennol
Swyddi: Swyddog Adsefydlu Nam ar y Golwg (ROVI)
Cyfeirnod y swydd: RE-1792
Cyflog: £36,124.00 - I: £39,513.00
Graddfa Swydd: Gradd 7 / Grade 7
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Parc Iechyd Kier Hardie / Keir Hardie Health Park
Arbenigol:
Bod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau asesu ac adsefydlu arbenigol ar gyfer oedolion (a phlant) â nam ar eu golwg er mwyn hyrwyddo diogelwch, annibyniaeth a dewis.
Ymgymryd â'r broses Gofrestru a chynnal Cofrestrau Nam ar y Golwg a Nam ar y Golwg Difrifol yr Awdurdod Lleol (yn unol â Deddf Cymorth Gwladol 1948).
Ymarfer yn unol â'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gweithwyr Synhwyraidd Arbenigol a'r cod ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol a chadw at Cod Moeseg ac Ymddygiad WOF.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Sonia Lloyd-Williams ar 01685 725000 neu ebostiwch Sonia.Lloyd-Williams@merthyr.gov.uk
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 12.06.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.