Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Swyddog Cymorth Gwella Cydweithredol
Cyfeirnod y swydd: RE-1798
Cyflog: £25,584.00 - I: £27,711.00
Graddfa Swydd: Gradd 3 / Grade 3
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Hyblyg / Agile
Arbenigol:
Angen o: Gorffennaf 2025- cyn gynted â phosibl ar ôl hynny

Mae adran addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn chwilio am Swyddog Cymorth Gwella Cydweithredol ymroddedig, brwdfrydig a fydd yn darparu cefnogaeth effeithiol i'r Swyddog Gwybodaeth Dysgu a'r Pennaeth Cyflawniad a Llesiant. Bydd y rôl yn cyfrannu at effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gweithrediadau gwella ysgolion, fel rhan o'r Strategaeth Codi Dyheadau, Codi Safonau ac amcanion Llesiant y Cyngor. Byddai'r rôl yn gofyn i chi ymgysylltu â Phartneriaid Gwella Ysgolion a Chydweithredol, Penaethiaid, adrannau ledled yr Awdurdod Lleol, a gyda Phartneriaid Allanol i goladu gwybodaeth am berfformiad i gefnogi adrodd ar safonau ysgolion.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Andrea May ar 01685 725000 neu ebostiwch Andrea.May@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 03.07.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.