Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Gweithiwr Ieuenctid (RhA)
Cyfeirnod y swydd: RE-1853
Cyflog: £25,989.00 - I: £25,989.00
Graddfa Swydd: Gradd 2 / Grade 2
Oriau Swyddi: 16 Awr / 16 Hours
Lleoliad: Gwasanaeth Ieuenctid / Youth Service
Arbenigol:
16 Awst
Gradd 2 SCP £25,989 y flwyddyn yn ôl pro rata
16 Awst = 43.24% x £25,989 = £11,237 y flwyddyn

Darparu rhaglen gytunedig o wasanaethau ieuenctid a chymunedol a dysgu anffurfiol i blant a phobl ifanc. Eu cynorthwyo i ddatblygu a gwerthuso'r rhaglenni dysgu. Sicrhau bod cyfranogiad a dysgu pobl ifanc yn cael eu monitro a'u gwerthuso'n effeithiol.

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gyflwyno a chynllunio ei raglen gwaith ieuenctid i sicrhau bod anghenion pobl ifanc yn cael eu diwallu a bod targedau gwasanaeth yn cael eu cyflawni. Gall hyn gynnwys arwain ar faes penodol o gyflawni'r cwricwlwm.

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gefnogi ymgynghori, cyfranogiad a gwerthuso’r gwasanaeth yn weithredol. Bydd gofyn am ystod amrywiol o dasgau cysylltiedig fel casglu data, monitro a chefnogi cynhyrchu adroddiadau.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Nigel Sheppard ar 01685 725000 neu ebostiwch Nigel.Sheppard@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 27.11.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.