Ar-lein, Mae'n arbed amser
Swyddi Gwag Presennol
Swyddi: Person Cyfrifol Canolfannau Ailgylchu Cartref (HRC)
Cyfeirnod y swydd: RE-1854
Cyflog: £31,537.00 - I: £33,699.00
Graddfa Swydd: Gradd 5 / Grade 5
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Yn seiliedig yn HRC Dowlai / Based at Dowlais HRC
Arbenigol:
Wedi'i leoli yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff Dowlais. Hen ffordd Gellifaelog, Dowlais, Merthyr Tudful. CF48 3DA
Gweithio fel aelod rhagweithiol o'r tîm rheoli gwastraff, gan gyflawni dyletswyddau mewn modd diogel a chydymffurfio bob amser yn cadw at Bolisïau a Gweithdrefnau.
Cyflawni dyletswyddau gweithredol a goruchwylio yn y Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu Cartref gan sicrhau bod y safleoedd yn gweithio'n effeithlon ac yn cael eu cadw mewn cyflwr glân a thaclus.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Christopher Walters ar 01685 725000 neu ebostiwch Christopher.Walters@merthyr.gov.uk
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 27.11.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.