Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Cynorthwy-ydd Amgueddfa
Cyfeirnod y swydd: RE-1947
Cyflog: £26,403.00 - I: £28,598.00
Graddfa Swydd: Gradd 3 / Grade 3
Oriau Swyddi: 28 Awrs / 28 Hours
Lleoliad: Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa / Cyfarthfa Castle Museum and Art Gallery
Arbenigol:
Cyflog = 75.67% o Radd 3 SCP 7-12 = £19,979.15 - £21,640.10 y flwyddyn.

Cynorthwyo gyda’r gwaith marchnata, cysylltiadau cyhoeddus, gofal am yr adeilad, glanhau a diogelwch Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa.

Cynorthwyo Cynorthwywyr yr Amgueddfeydd i ddarparu gwasanaethau amgueddfeydd o safon uchel cyson ar gyfer Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Darparu profiad cwsmeriaid o'r radd flaenaf i ymwelwyr a chynnal lefel a chyflwr da ar gyfer y stoc yn ogystal ag amgylchedd gyffredinol yr Amgueddfa a'r Oriel a sicrhau bod yr arddangosfeydd yn cael eu diogelu.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Nathan Roberts ar 01685 725000 neu ebostiwch Joanne.Baber@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 10.05.2026 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.