Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Athro/ Athrawes, Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug
Cyfeirnod y swydd: TC035-2526
Cyflog: £33,731.00 - I: £51,942.00
Graddfa Swydd: Graddfa Gyflog Athro
Oriau Swyddi: 32.5
Lleoliad: Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug, Aberfan, Merthyr Tydfil CF48 4NT
Arbenigol:
Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug

Yn eisiau ar gyfer Medi 2026:

ATHRO / ATHRAWES

Prif Raddfa Gyflog Athrawon

Swydd blwyddyn i gychwyn, hyd at Awst 31ain, 2027

Mae Pennaeth a Chorff Llywodraethol yr ysgol benodedig Gymraeg llwyddiannus, uchelgeisiol a chyfeillgar hon yn gwahodd ceisiadau wrth ymarferwyr talentog, brwdfrydig a phroffesiynol i ymuno â thîm ymroddgar yr ysgol. Yn ysgol Gymraeg Rhyd y Grug mae gennym ddisgwyliadau uchel ar gyfer ein disgyblion a’n staff ac rydym yn gweithio’n ddiflino i gyflawni ein nod. Disgwylir i’r person a benodir ymrwymo i’r weledigaeth hon ac i gefnogi ac arwain ein hymgyrch at Dyfu, Dysgu a Llwyddo gyda’n gilydd.

Mae Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug yn adnabyddus am ei hamgylchedd meithringar a chroesawgar, ac rydym yn angerddol am ddyfodol ein dysgwyr. Rydym eisiau i’n disgyblion dyfu i fod yn unigolion hapus, iach, hyderus ac uchelgeisiol. Ein nod fel ysgol yw creu awyrgylch hapus a diogel i’n disgyblion ffynnu a chyrraedd eu llawn botensial.

Mae Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug yn gwasanaethu dalgylch eang o amgylch Aberfan ym Merthyr Tudful. Mae ynddi dros 260 o ddisgyblion, gan gynnwys 30 o blant yn y feithrin.

Rydym yn chwilio am addysgwr/addysgwraig ragorol sy’n unigolyn ymroddgar, hyblyg a threfnus iawn sy’n gosod disgwyliadau eithriadol o uchel ar gyfer ei hun ac yn mynnu’r safonau uchaf posibl wrth bob disgybl ac eraill.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gydlynu maes ar draws yr ysgol ac i arwain a chefnogi gweithgareddau allgyrsiol, eisteddfodol a diwylliannol.

Swydd ydy hon dros gyfnod o flwyddyn yn y man cychwyn.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol ynghyd â’r gallu i weithio’n effeithiol fel rhan o dîm ac i ymgysylltu’n effeithlon â rhieni.

Am fanylion pellach, mae croeso cynnes i chi gysylltu â’r Pennaeth, Mrs Alwen Bowen, ar 01685 351818

Dylid cwblhau’r cais yn Gymraeg a gofynnir i chi amlinellu eich profiadau a’ch sgiliau yn y llythyr cais.
Ffurflenni cais ar gael, ac i`w dychwelyd i`r cyfeiriad canlynol:
Adran Adnoddau Dynol, Ystafell 323, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful CF47 8AN

Rhif Ffon: 01685 725199.

Dyddiad Cau: Mehefin 15fed am 12 o’r gloch