Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Seicolegydd Addysg
Cyfeirnod y swydd: RE-1950
Cyflog: £47,045.00 - I: £57,766.00
Graddfa Swydd: Soulbury A 2-7
Oriau Swyddi: 29.60
Lleoliad: Y Ganolfan Ddinesig / Civic Centre
Arbenigol:
CYFLAID = Pwynt SOULBURY A 2 - 7 + 3 SPA POSIB.
= £37,636 - £46,212.80 + 3 SPA POSIB.

1. Cynorthwyo i ddarparu Gwasanaethau Seicoleg Addysgol i ddysgwyr a'u teuluoedd.
2. Darparu cymorth a chyngor seicolegol i leoliadau cyn-ysgol, oed ysgol ac ôl-16.
3. Defnyddio seicoleg i gynorthwyo Awdurdod Lleol Merthyr Tudful i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc a chyflawni rhwymedigaethau statudol yr ALl.
4. Cynorthwyo i nodi cryfderau ac anawsterau plant a phobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn y Fwrdeistref Sirol. Cynghori darpariaeth briodol i fodloni eu ADY.
5. Cymryd rôl arweiniol wrth gynorthwyo lleoliadau, athrawon, rhieni ac asiantaethau partner eraill mewn perthynas â diwygio ADY.
6. Darparu ymyriadau, gan gynnwys gwaith therapiwtig a hyfforddiant yn ôl yr angen.
7. Cynorthwyo mewn ymchwil sy'n galluogi dilyniant ymarfer cadarnhaol, seiliedig ar dystiolaeth ar bob lefel o fewn yr ALl.

Bydd goruchwyliaeth broffesiynol a DPP yn cael ei ddarparu gan y GSA.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Bronwen Parry ar 01685 725000 neu ebostiwch Bronwen.Parry@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 02.07.2026 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.