Ar-lein, Mae'n arbed amser
Swyddi Gwag Presennol
Swyddi: Gweithiwr Cymdeithasol
Cyfeirnod y swydd: RE-1975
Cyflog: £41,771.00 - I: £47,181.00
Graddfa Swydd: Gradd 8 / Grade 8
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Parc Iechyd Keir Hardie / Keir Hardie Health Park
Arbenigol:
Gweithio fel gweithiwr cymdeithasol o fewn tîm amlddisgyblaethol, gan ddarparu gwasanaeth i unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol a pharhaol a neu gyda dementia.
Mae'r rôl hon yn rôl statudol ac mae'n cael ei hategu gan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, Deddf Galluedd Meddyliol 2005, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Mae'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn dîm prysur sy'n gweithio gydag unigolion ag anhwylder meddwl difrifol a pharhaol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â'r rôl o fewn egwyddorion arweiniol y fframwaith Cynllunio Gofal a Thriniaeth. Bydd yr unigolyn hefyd yn ymgymryd ag ymholiadau adran 126 ac yn gyfrifol am ddiogelu hawliau'r rhai sydd yn eu gofal.
Cysylltu'n effeithiol â darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl eraill, a thrwy hynny hwyluso darparu gwasanaethau di-dor i unigolion.
Hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol pobl sy'n profi salwch meddwl difrifol. Gweithio tuag at fodel gofal adferiad, er mwyn i unigolion fyw bywydau annibynnol a bodlon.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Alyson Jones ar 01685 725000 neu ebostiwch Alyson.Jones2@merthyr.gov.uk
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 27.08.2026 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.