Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Gweithiwr Allgymorth (Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2027)
Cyfeirnod y swydd: RE-1991
Cyflog: £32,578.00 - I: £34,811.00
Graddfa Swydd: Gradd 5 / Grade 5
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Canolfan Ddinesig Merthyr Tudful / Merthyr Tydfil Civic Centre
Arbenigol:
Pam Ymuno â’r Tîm Cefnogi Newid? - Dyma gyfle cyffrous i ymuno a thîm ymroddgar a chefnogol sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifainc a theuluoedd ledled Merthyr Tudful er mwyn creu newid ystyrlon a pharhaol. Rydym yn chwilio am unigolyn egnïol sydd yn teimlo dros eraill ac sydd â phrofiad o weithio gyda phlant a theuluoedd, rhywun all feithrin perthnasoedd cadarnhaol, all gyfathrebu’n effeithiol a pharhau’n ymrwymedig er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i blant. Byddwch yn deall pwysigrwydd arferion sydd wedi selio ar berthnasoedd a byddwch yn hyderus yn cefnogi teuluoedd drwy gyfnodau heriol a chyfnodau o newid. Mae’r Tîm Cefnogi Newid yn darparu’r gwaith Estyn Braich a’r Tîm y Tu Hwnt i Oriau Gwaith, gan ddarparu cefnogaeth ymarferol a dwys er mwyn cefnogi teuluoedd pan fo angen y gefnogaeth hynny arnynt fwyaf. Wrth gydweithio â chydweithwyr ac asiantaethau sy’n bartneriaid i ni, byddwch yn cefnogi plant i aros yn ddiogel gyda’u teuluoedd lle bo hynny’n bosib, cryfhau gwydnwch y teulu, a chynorthwyo rhieni i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i gyflawni anghenion eu plant. Swydd amrywiol yw hon heb fod yr un diwrnod yr un peth â’r nesaf. Efallai y byddwch yn darparu cefnogaeth ar aelwyd y teulu, yn gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifainc, yn cynorthwyo teuluoedd i weithredu cynlluniau cefnogol, rheoli trefniadau gyda’r teuluoedd, neu’n ymateb i anghenion sy’n codi drwy’r gwasanaeth y tu hwnt i oriau swyddfa. Gweithreda’r swydd ar rota bum diwrnod rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu cefnogaeth hyblyg sy’n ymateb i anghenion plant a theuluoedd y tu hwnt i oriau swyddfa draddodiadol. Rydym yn falch o’r ffaith ein bod yn dîm cefnogol lle mae llesiant y staff, datblygiad proffesiynol ac arferion ystyrlon yn cael eu hannog. Byddwch yn derbyn goruchwyliaeth gyson, cyfleoedd i hyfforddi, a chefnogaeth gan reolwyr profiadol sydd wedi ymrwymo at helpu staff i ddatblygu a ffynnu o fewn eu swyddi. Bydd y swydd yn para am gyfnod penodol tan yr 31.03 2027. Er nad allwn gadarnhau y bydd y swydd yn cael ei hariannu wedi’r dyddiad hwn, mae’n bosib y bydd cyfle i ymestyn y cytundeb, yn ddibynnol ar drefniadau ariannu’r dyfodol.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Hayley Hodson ar 01685 725000 neu ebostiwch Hayley.Hodson@merthyr.gov.uk
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol. I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffflen erbyn 15.10.2026 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN. Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol. Mae MTCBC wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un. Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu. Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.