Ar-lein, Mae'n arbed amser
Swyddi Gwag Presennol
Swyddi: Uwch Weithiwr Cymdeithasol
Cyfeirnod y swydd: RE-1999
Cyflog: £49,817.00 - I: £53,051.00
Graddfa Swydd: Gradd 9 / Grade 9
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Gweler isod / see below
Arbenigol:
Y Ganolfan Ddinesig / Gweithio yn y Cartref /
MASH – Ty Trevithick
Mae'r Hyb Diogelu Aml-Asiantaeth yn amgylchedd deinamig a gwerthfawr wrth wraidd Gwasanaethau Plant, lle mae gwneud penderfyniadau amserol yn help i gadw plant yn ddiogel ac yn hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol i deuluoedd. Gan gynrychioli Gwasanaethau Plant o fewn MASH, byddwch yn gweithio ar y cyd ag ystod o asiantaethau partner, gan rannu gwybodaeth, asesu risg, a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn derbyn y gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn.
Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i ddatblygu arbenigedd mewn gwneud penderfyniadau trothwy, diogelu, asesu risg a gweithio aml-asiantaeth. Mae’n tîm cefnogol a phrofiadol yn gwerthfawrogi chwilfrydedd proffesiynol, ymarfer myfyriol a dysgu parhaus, gan ddarparu goruchwyliaeth, hyfforddiant a chyfleoedd datblygu gyrfa.
Mae gweithio yn MASH yn golygu bod yn rhan o dîm cyflym, ymroddedig sy'n cael effaith sylweddol o'r pwynt cyswllt cyntaf. Os ydych chi'n angerddol am ddiogelu plant, yn mwynhau gweithio mewn partneriaeth ac yn ffynnu mewn amgylchedd lle gall eich barn broffesiynol wneud gwahaniaeth gwirioneddol, byddem yn croesawu eich cais.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Maisie Duckworth ar 01685 725000 neu ebostiwch Maisie.Duckworth@merthyr.gov.uk
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 05.11.2026 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth