Ar-lein, Mae'n arbed amser
Swyddi Gwag Presennol
Swyddi: Swyddog Rheoli Adeiladu
Cyfeirnod y swydd: RE-2016
Cyflog: £38,510.00 - I: £42,123.00
Graddfa Swydd: Gradd 7 / Grade 7
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Uned 5 a Gweithio gartref / Unit 5 & Home working
Arbenigol:
Swyddog Rheoli Adeiladu
Proffil swyddi gwag | Gwasanaethau Cynllunio
Ymunwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn Swyddog Rheoli Adeiladu a helpwch i ddiogelu ansawdd, lles a diogelwch cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol. Wedi'i leoli o fewn y Gwasanaethau Cynllunio, byddwch yn cyfuno gweithio gartref gydag amser yn Uned 5 ac ymweliadau rheolaidd gydag amrywiaeth o safleoedd adeiladu.
Mae hon yn rôl ymarferol, werth chweil. Byddwch yn asesu ceisiadau Rheoliadau Adeiladu, yn cynnal arolygiadau safle, yn ymateb i strwythurau peryglus a dymchweliadau, yn ymchwilio i dramgwyddau ac yn darparu cyngor clir, diduedd i breswylwyr, datblygwyr, contractwyr, aelodau etholedig a chydweithwyr. Yn dibynnu ar eich cymhwysedd cofrestredig, byddwch yn rheoli gwaith Dosbarth 2A, 2B a 2D yn annibynnol, yn cyfrannu at brosiectau mwy cymhleth o dan oruchwyliaeth ac yn cefnogi datblygu Arolygwyr Adeiladu Cofrestredig.
Byddwch yn ymuno â gwasanaeth cydweithredol sy'n gweithio'n agos gyda Rheoli Datblygu, cydweithwyr cyfreithiol, asiantaethau allanol a gweithwyr proffesiynol adeiladu. Mae'r tîm yn gwerthfawrogi barn gadarn, ffocws ar y cwsmer a dull cymesur o sicrhau cydymffurfiaeth, wrth hyrwyddo Gwasanaeth Rheoli Adeiladu'r Cyngor a chynnal safonau ISO 9001.
Mae'r swydd yn cynnig sgôp gwirioneddol i ehangu eich gwybodaeth dechnegol, cynnal cofrestriad proffesiynol a dilyn datblygiad proffesiynol parhaus. Mae'n addas i weithiwr proffesiynol Rheoli Adeiladu llawn cymhelliant sy'n mwynhau gwaith achos amrywiol, cyfrifoldeb a gwneud cyfraniad gweladwy at ddatblygiad mwy diogel a gwell ym Merthyr Tudful.
Gradd 7: £38,510 - £42,123 | 37 awr | Uned 5 a gweithio gartref
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Brett Hughes ar 01685 725000 neu ebostiwch Brett.Hughes@merthyr.gov.uk
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 17.12.2026 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.