Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Pennaeth Gwasanaeth – Gwasanaethau Plant
Cyfeirnod y swydd: RE-2009
Cyflog: £78,370.00 - I: £86,171.00
Graddfa Swydd: Group C - Heads of Service
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Gweler isod / See below
Arbenigol:


Lleoliad: Uned 5 (Swyddfeydd Pentrebach) a/neu Ganolfan Ddinesig, Merthyr Tudful

Grwp C - Pennaeth Gwasanaeth

Ni fu erioed amser mwy cyffrous i ymuno â Gwasanaethau Plant ym Merthyr Tudful. Rydym yn awdurdod balch gyda chefnogaeth wleidyddol a chorfforaethol gref i blant a theuluoedd, gweithlu ymroddedig, ac uchelgais glir i gyflawni canlyniadau rhagorol i'n cymunedau. Gwnaed cynnydd sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a adlewyrchir drwy adborth allanol cadarnhaol a'r gwelliannau a gydnabyddir drwy ein gweithgarwch hunanasesu ac adolygu awdurdodau lleol. Gan adeiladu ar y sylfeini cryf hyn, rydym yn chwilio am arweinydd ysbrydoledig sy'n rhannu ein gwerthoedd, sy'n gallu gyrru arloesedd a gwelliant parhaus, ac a fydd yn helpu i lunio pennod nesaf ein taith.

Mae gennym bartneriaethau cryf ac ymrwymiad cyffredin i wella canlyniadau i blant a theuluoedd. Wrth i ni barhau â'n taith wella, mae hwn yn gyfle unigryw i ymuno ag awdurdod uchelgeisiol a chwarae rhan allweddol wrth lunio dyfodol gwasanaethau i'n plant a'n pobl ifanc.

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cysylltwch â Lisa Curtis-Jones, Cyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol, os hoffech drafod y rôl. Lisa.curtisjones@merthyr.gov.uk neu 01685 724680.

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 04.01.2027 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.