Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Swyddog Gorfodi Cynllunio
Cyfeirnod y swydd: RE-2020
Cyflog: £38,510.00 - I: £42,123.00
Graddfa Swydd: Gradd 7 / Grade 7
Oriau Swyddi: 22.2 Awr / 22.2 Hour
Lleoliad: Uned 5 a gweithio gartref / Unit 5 & Home working
Arbenigol:
Gradd 7
Oriau: 22.2 Oriau
Cyflog: Gradd 7 SCP 26-30 = £38,510 - £42,123 y flwyddyn
yn gymesur
22.2 Oriau = 60% = £23,106 - £25,273 y flwyddyn

Ymunwch â Thîm Cynllunio Merthyr Tudful a helpwch i sicrhau bod datblygiad ledled y Fwrdeistref Sirol yn briodol ac yn unol â rheolaethau cynllunio.

Fel Swyddog Gorfodi Cynllunio, byddwch yn ymchwilio i honiadau o dorri rheoliadau cynllunio, yn cynnal ymweliadau â'r safle, yn negodi atebion a, lle bo angen, yn paratoi ac yn cyflwyno hysbysiadau gorfodi. Byddwch yn cynghori aelodau'r cyhoedd, Cynghorwyr, ymgeiswyr ac asiantau, yn cydlynu apeliadau gorfodi ac yn paratoi tystiolaeth ar gyfer achosion llys, gwrandawiadau anffurfiol ac ymholiadau cyhoeddus.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad perthnasol mewn Gorfodi Cynllunio neu Reolaeth Datblygu, gwybodaeth weithredol am gyfraith a gweithdrefn gynllunio, sgiliau cyfathrebu a negodi rhagorol a'r hyder i ddarparu cyngor proffesiynol cadarn, diduedd.
Mae hon yn rôl ran-amser, 22.2 awr dros dri diwrnod, gyda chyfuniad o weithio yn Uned 5 ac o gartref.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â David Cross ar 01685 725000 neu ebostiwch David.Cross@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 04.01.2027 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.