Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Goruchwyliwr Prynu i Dalu
Cyfeirnod y swydd: RE-2022
Cyflog: £38,510.00 - I: £42,123.00
Graddfa Swydd: Gradd 7 / Grade 7
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Canolfan Ddinesig a Gweithio Hyblyg / Civic Centre and Agile
Arbenigol:
Mae’r swydd Goruchwyliwr Prynu i Dalu yn cynnig cyfle cyffrous i weithio wrth wraidd gweithgareddau masnachol, caffael ac ariannol y Cyngor. Fel rhan o'r Uned Fasnachol, sy'n cyfuno gwaith Caffael, Masnach, Prynu i Dalu a Thaliadau Canolog, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ac yn datblygu prosesau prynu a thalu allweddol sy'n cefnogi pob un o wasanaethau’r Cyngor ledled yr Awdurdod. Mae'r rôl yn cyfuno’r gwaith o arwain pobl, gweinyddu systemau, rheoli perthynas â chyflenwyr, llywodraethiant ariannol a gwelliant parhaus, gan roi'r cyfle i ddylanwadu ar y ffordd y caiff arian cyhoeddus ei wario, ei reoli a'i adrodd. Gan weithio'n agos â Cyllid, TGCh a meysydd gwasanaeth, bydd y person sy’n gwneud y swydd yn chwarae rhan ganolog wrth gynnal systemau effeithiol, gwella prosesau, cefnogi cydymffurfiaeth a darparu effeithlonrwydd sy'n cyfrannu at gynaliadwyedd ariannol a nodau sefydliadol y Cyngor. Gyda chefnogaeth tîm profiadol a chydweithredol, dyma gyfle rhagorol i rywun sy'n mwynhau arwain pobl, datrys problemau a gwneud cyfraniad gweladwy at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Paul Davies ar 01685 725000 neu ebostiwch Paul.Davies@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 04.01.2027 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.