Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Arweinydd Tîm ymgysylltu â'r cyhoedd - Bioamrywiaeth (Rôl CFfG)
Cyfeirnod y swydd: RE-1773
Cyflog: £33,366.00 - I: £35,235.00
Graddfa Swydd: Gradd 6 / Grade 6
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Uned 20 Pentrebach / Unit 20 Pentrebach
Arbenigol:
Arweinydd Tîm ymgysylltu â'r cyhoedd - Bioamrywiaeth (Rôl CFfG)
Cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2026

Arwain tîm bach o ddau warden amgylcheddol sy'n gweithio gyda'r gymuned ar brosiectau gwella amgylcheddol.

Hyrwyddo a sefydlu fel prif amcan o fewn holl wasanaethau'r Cyngor; y rhwymedigaeth i wella bioamrywiaeth yn unol â'r Cynllun Adfer Natur (2019-2024). Cyfathrebu'n effeithiol ag aelodau etholedig, staff, cwsmeriaid, grwpiau diddordeb a'r cyhoedd ehangach y blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun Adfer Natur trwy wahanol ddulliau megis cyfryngau cymdeithasol, cyflwyniadau, cyfarfodydd ac ati.

Gweithio gyda gweithredwyr i sefydlu a gweithredu cyfundrefnau cynnal a chadw sy'n helpu peillwyr a thrwy hynny ddod â newid yn y ffordd y mae'r amgylchedd yn cael ei weld a'i reoli er budd natur.

Datblygu dogfen bolisi ar gyfer rheoli glaswelltir a mannau agored i wella a diogelu bioamrywiaeth.

Gweithio gyda swyddog bioamrywiaeth y cyngor a chynorthwyo gyda phrosiectau'r Bartneriaeth Natur Leol.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Gillian Hampson ar 01685 725000 neu ebostiwch Gillian.Hampson@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 15.05.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.