Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Arweinydd Tîm – Glanhau Strydoedd
Cyfeirnod y swydd: RE-1809
Cyflog: £36,124.00 - I: £39,513.00
Graddfa Swydd: Gradd 7 / Grade 7
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Uned 20, ystâd ddiwydiannol Pentrebach / Unit 20, Pentrebach, Industrial Estate
Arbenigol:
(1 flwyddyn Cyfnod Penodol) a adolygir yn flynyddol

Yn gyfrifol am arwain tîm glanhau strydoedd pwrpasol, sicrhau bod glendid a chynnal a chadw mannau cyhoeddus yn cael eu cadw at safonau LEAMS (System Rheoli Asedau Amgylcheddol Lleol), goruchwylio'r gwaith o gael gwared ar wastraff a drin cwynion cyhoeddus a Chynghorwyr. Yn ogystal, byddwch yn cynrychioli'r adran mewn cyfarfodydd, gan feithrin cyfathrebu a chydweithrediad effeithiol â rhanddeiliaid amrywiol.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Paul Jones ar 01685 725000 neu ebostiwch Paul.Jones2@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 31.07.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.