Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Cynorthwywyr Dysgu Gradd 3 X 5, Ysgol Arbennig Greenfield
Cyfeirnod y swydd: LS081-4725
Cyflog: £26,403.00 - I: £28,598.00
Graddfa Swydd: Grade 3 SCP 7-12
Oriau Swyddi: 32.5
Lleoliad: Greenfield Special School
Arbenigol:
YSGOL ARBENNIG GREENFIELD
Heol Duffryn
Pentrebach
MERTHYR TUDFUL
CF48 4BJ

PENNAETH: R Stephens Davies

Cynorthwywyr Dysgu Gradd 3 X 5 yn eisiau
3 Dros Dro tan 31/08/2026 a 2 parhaol
32.5 Awr yr wythnos
Gradd 3 SCP 7-12 £26,403 - £28,598 FTE
76.82% o SCP 7 = £20,282 y flwyddyn

I ddechrau cyn gynted â phosibl

Mae yno gyfle i bum Cynorthwyydd Dysgu ymuno â’n tîm brwdfrydig a llwyddiannus.

Mae’r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi Cynorthwywyr brwdfrydig sy’n angerddol dros ddysgu ac sydd wedi ymroi i ddarparu addysg ragorol i’n plant. Gwahoddir ceisiadau gan bobl brofiadol a chanddynt y cymwysterau addas er mwyn ymuno â’n Tîm Arwain Cynorthwywyr Dysgu.

Dylai eich llythyr cais ddangos ym mha fodd y mae eich gyrfa hyd yn hyn yn ateb anghenion y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person ill dau.

Mae Ysgol Greenfield yn Ysgol Arbennig sy’n gofalu am ystod eang o anghenion plant rhwng oedrannau 3 i 19. Mae Ysgol Greenfield yn ysgol lwyddiannus, fywiog a hapus sy’n cynnig cyfleoedd dysgu gwych i bob un o’n disgyblion, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol o safon uchel i bob un aelod o’n staff. Mae Greenfield yn ysgol sydd yn ystyried ac yn meddwl am y dyfodol, mae’n hi’n ysgol arloesol sydd yn gwneud yn siwr ei bod yn cynnwys pawb. Mae lles y disgyblion a’r staff ill dau yn flaenoriaeth bwysig i’r ysgol a dyma’r rheswm dros gyflwyno dull tosturiol o arwain gan y Tîm Uwch Reoli.

Mae ffurflenni cais, swydd ddisgrifiadau a manyleb y person ar gael o’r Adran Adnoddau Dynol, y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful a rhaid eu dychwelyd i’r un cyfeiriad.

Dyddiad cau ar gyfer ffurflenni cais: 3ydd Hydref 2025
Dyddiad cyhoeddi’r rhestr fer: 6ed Hydref 2025
Dyddiad y cynhelir y cyfweliadau: 8fed/9fed Hydref 2025


Mae croeso i ymgeiswyr gysylltu â’r ysgol drwy ffonio 01685 351817 er mwyn trafod y swydd ymhellach gyda’r Pennaeth.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad llawn uwch gan y Gwasanaeth Dateglu a Gwahardd.

Gellir cwblhau ffurflenni cais ar lein: www.merthyr.gov.uk

Os nad oes modd i chi ddefnyddio’r rhyngrwyd, gallwch gael gafael ar ffurflen gais drwy ffonio 01685 725000 a’i dychwelyd nid hwyrach na dydd Gwener y 3yddfed o Hydref i Adnoddau Dynol/ HR Administration, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i warchod a diogelu’r bobl sydd fwyaf agored i niwed o fewn ein cymuned. Cyflawnir gwiriadau cyflogaeth trwyadl ar gyfer pob un penodiad fel rhan o’n proses recriwtio a dethol.

Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio gyda’u cyfrifoldebau unigol a chyfrifoldebau’r sefydliad yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data, y Polisi Diogelwch Gwybodaeth ac unrhyw bolisïau gweithredol perthnasol eraill sy’n cefnogi’r rhain. Ni ddylai unrhyw fater o natur gyfrinachol gael eu datgelu na’u rhannu gydag unrhyw un anawdurdodedig na chwaith eu rhannu gyda thrydydd person ar unrhyw amod, nid yn ystod cyfnod y swydd na chwaith wedi i’r swydd ddod i ben heblaw yn ôl y drefn briodol o fewn eich swydd neu fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Gallai tor-cyfrinachedd arwain at orchymyn disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth o fewn ein gweithlu ac ystyriwn ein hunan yn Gyflogwr Delfrydol, sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i mewn i bob elfen o’n gwaith. Croesawn ffurflenni cais gan bawb ac anogwn ymgeiswyr o bob grwp a chefndir i ymgeisio ac i ymuno â ni ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn gwbl ymrwymedig i waredu ar wahaniaethu yn y gweithle ac i sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd a beichiogrwydd a mamolaeth.