Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Gweithiwr Cymdeithasol
Cyfeirnod y swydd: RE-1846
Cyflog: £41,771.00 - I: £47,181.00
Graddfa Swydd: Gradd 8 / Grade 8
Oriau Swyddi: 18.5 Awr /18.5 Hours
Lleoliad: Y Ganolfan Ddinesig, Merthyr Tudful / Civic Centre, Merthyr Tydfil
Arbenigol:
Cyfnod Penodol am 2 Flynedd
18.5 Awr (50%) - Gradd 8 SCP 31-16 £41,771 - £47,181 y flwyddyn pro rata= £20,885.50 - £23,590.50 y flwyddyn


Diogelu oedolion agored i niwed sydd angen cymorth sy'n cael eu cyfeirio at yr adran, gan sicrhau bod cynlluniau yn cael eu rhoi ar waith a fydd yn lliniaru risgiau.

Er mwyn cael persbectif cywir, sy'n canolbwyntio ar y person o anghenion oedolion er mwyn sicrhau bod y cymorth mwyaf priodol yn cael ei ddarparu i gyflawni eu hannibyniaeth optimaidd.

Gweithio ar y cyd ag Oedolion a'u gofalwyr sy'n profi materion arbennig o gymhleth a'u cynorthwyo i ddod o hyd i atebion.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Alex Hood ar 01685 725000 neu ebostiwch Alex.Hood@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 23.10.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.