Ar-lein, Mae'n arbed amser
Swyddi Gwag Presennol
Swyddi: Gweithiwr Cymorth Gwasanaeth Dydd
Cyfeirnod y swydd: RE-1916
Cyflog: £26,403.00 - I: £28,598.00
Graddfa Swydd: Gradd 3 / Grade 3
Oriau Swyddi: 28 Awr / 28 Hours
Lleoliad: Gwasanaethau Dydd CBSMT / MTCBC Day Services
Arbenigol:
28 Awyr - Gradd 3
28 Awyr = 75.67% x £26,403 - £28,598 y flwyddyn yn gyfriaad cyfatebol
= £19,979 - £21,640 y flwyddyn
Darparu gofal personol, cymorth emosiynol ac ymarferol i bobl ag anghenion gofal a chymorth wedi'u nodi.
Darparu cyfleoedd ystyrlon a chefnogi canlyniadau a nodau personol i unigolion mewn amrywiaeth o leoliadau. A all gynnwys cyfleoedd ym meysydd gwaith, gwirfoddoli, hyfforddiant, addysg a hamdden.
Mae hyn yn cynnwys oedolion dros 18 oed ag anabledd dysgu neu gorfforol, pobl hyn, pobl a allai fod â chyflwr wedi'i ddiagnosio fel Awtistiaeth neu Ddementia. mewn amgylchedd sy'n galluogi cefnogi ac annog ystod eang o gyfleoedd a gweithgareddau gan sicrhau bod hawliau, urddas, amrywiaeth, annibyniaeth a lles unigolion yn cael eu hyrwyddo a'u cynnal.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Joshua Waters ar 01685 725000 neu ebostiwch Joshua.Waters@merthyr.gov.uk
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 27.03.2026 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.