Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Gweithiwr Cymorth Rhianta
Cyfeirnod y swydd: RE-1920
Cyflog: £31,537.00 - I: £33,699.00
Graddfa Swydd: Gradd 5 / Grade 5
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Calon Las, Y Gurnos, Merthyr Tudful / Calon Las, Gurnos, Merthyr Tydfil
Arbenigol:
Swydd Tymor Penodedig - Hyd i'w gadarnhau

Bydd y rôl yn darparu cymorth rhianta i deuluoedd ledled Merthyr Tudful, gan gyfrannu at gyflawni amcanion rhianta Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf.

Bydd y Gweithiwr Cymorth i Rieni yn canolbwyntio ar ymgysylltu â theuluoedd a'u helpu i adeiladu hyder, gwytnwch a chymhelliant trwy gyflwyno rhaglenni rhianta sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd cefnogaeth yn cael ei gynnig trwy sesiynau grwp ac ymyriadau un-i-un, gan sicrhau bod gan rieni a gofalwyr y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i hyrwyddo datblygiad corfforol, emosiynol ac addysgol eu plant.

Bydd y swydd hon yn rhoi pwyslais arbennig ar ddarparu ymyriadau rhianta yn y gymuned ac ar ddatblygu ymgysylltiad cryf â phartneriaid, rhieni a gwarcheidwaid newydd i gryfhau rhwydweithiau cymorth a chanlyniadau i deuluoedd.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Julie Lewis ar 01685 725000 neu ebostiwch Julie.Lewis@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 20.03.2026 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.