Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Athro/Athrawes, Ysgol Greenfield
Cyfeirnod y swydd: TC081-1026
Cyflog: £33,731.00 - I: £51,942.00
Graddfa Swydd: Teachers salary scale + SNA1
Oriau Swyddi: Full time
Lleoliad: Greenfield School
Arbenigol:
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL MERTHYR TUDFUL
ADRAN YSGOLION

GREENFIELD SCHOOL
Pennaeth: Mrs Rhiannon Stephens Davies

Athrawon Arbenigol ADY yn ofynnol
Prif Raddfa Athrawon 3-19 oed + pwynt ADY

1 contract Parhaol Llawn Amser - Yn ofynnol i ddechrau mis Medi 2026
2 Contract mamolaeth yn dechrau mis Medi 2026

Ysgol arbennig yw Ysgol Greenfield sy’n gwasanaethu ar gyfer amrywiaeth o anghenion disgyblion mewn ystod oed 3-19. Mae Ysgol Greenfield yn llwyddiannus, bywiog a hapus ac yn cynnig cyfleoedd dysgu ardderchog i’n holl blant yn ogystal â datblygiad proffesiynol i’n staff. Mae Ysgol Greenfield yn ysgol flaengar a derbyniodd adroddiad Estyn hynod gadarhaol yn 2025.

Mae’r Corff Llywodraethu’n chwilio am athrawon profiadol, ysbrydoledig, uchel ei gymhelliant a chydwybodol i ymuno â’r tîm ymroddedig sy’n gweithio’n galed yn ein hysgol lwyddiannus iawn. Bydd angen i’r ymgeiswyr gael yr arbenigedd a’r hyblygrwydd i symud addysgu a dysgu yn eu blaen i’r disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn:
? Ymarferydd ardderchog yn yr ystafell ddosbarth.
? Yn meddu ar brofiad o weithio gyda disgyblion ADY, yn benodol yn y sbectrwm Awtistig.
? Gallu gwahaniaethu’n briodol i ddiwallu anghenion unigol yr holl ddysgwyr.
? Trefnus a meddu ar sgiliau rhyngbersonol ardderchog.
? Barod i ymgymryd â hyfforddiant priodol a dilyn athroniaeth PBS a PCP yr ysgol.
? Atebol dros safonau’r disgyblion yn eu dosbarth.
? Creadigol, dynamig a hyblyg.
? Ymroddedig i godi safonau a gwneud dysgu’n hwyl ac yn ymgysylltiol.
? Gallu gweithio fel rhan o dîm i gyflawni’r gorau i bob un disgybl.
? Gallu defnyddio TG yn effeithiol i gefnogi a gwella addysgu a dysgu.
? Gwybodus ynghylch diwygiadau addysgol cyfredol.
? Meddu ar sgiliau ardderchog o ran rheoli’r ystafell ddosbarth a chyfathrebu.

Dyddiad cau ar gyfer y swydd yw Dydd Iau 16 Ebrill 2026.
Caiff y rhestr fer ei llunio ar Dydd Llun 20 Ebrill 2026.
Cynhelir cyfweliadau Dydd Mercher 22 a Dydd Iau 23 Ebrill 2026.

Gellir cwblhau ffurflenni cais ar-lein www.merthyr.gov.uk
Os nad oes gennych fynediad at y we, gellir cael ffurflenni cais drwy ffonio 01685 725199 a’u dychwelyd erbyn 16 Ebrill 2026 i’r Adran Weinyddol, Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae gallu siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Cynhelir gwiriadau cyn-gyflogaeth trwyadl ar gyfer pob penodiad fel rhan o'n proses recriwtio a dethol.Mae'n

ofynnol i bob gweithiwr gydymffurfio â'u cyfrifoldebau unigol a sefydliadol o dan y Ddeddf Diogelu Data, y Polisi Diogelwch Gwybodaeth a pholisïau gweithredol ategol perthnasol. Ni ddylid datgelu na throsglwyddo unrhyw faterion o natur gyfrinachol i unrhyw bersonau anawdurdodedig neu drydydd parti o dan unrhyw amgylchiadau naill ai yn ystod neu ar ôl cyflogaeth ac eithrio yng nghwrs priodol eich cyflogaeth neu fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful neu'r ddau.

Gall unrhyw dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain yn Gyflogwr o Ddewis, wedi ymrwymo i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal ym mhob agwedd ar ein gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ymgeiswyr o bob grwp a chefndir i wneud cais ac ymuno â ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym wedi ymrwymo'n gryf i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle a sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dethol ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth a mynegiant rhywedd, a beichiogrwydd a mamolaeth