Ar-lein, Mae'n arbed amser
Swyddi Gwag Presennol
Swyddi: Athro/ Athrawes, Ysgol Gymraeg Santes Tudful
Cyfeirnod y swydd: TC036-1926
Cyflog: £33,731.00 - I: £51,942.00
Graddfa Swydd: Teachers Pay Scale
Oriau Swyddi: Full time
Lleoliad: Heol Pantyffin,Twynyrodyn, Merthyr Tydfil
Arbenigol:
YSGOL GYMRAEG SANTES TUDFUL
‘Ysbrydoli - Dysgu - Dathlu’
Swydd Athro/awes
(Cytundeb Blwyddyn i ddechrau)
Cyflog: Prif Raddfa Athrawon
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon newydd gymhwyso ac athrawon profiadol. (cytundeb blwyddyn i ddechrau).
Dyddiad Cau: 18.5.26
Dyddiad tynnu rhestr fer: 19.5.26
*Rhagor o wybodaeth i ymgeiswyr sydd yn cyrraedd y rhestr fer: 19 + 20/5/26*
Cyfweliadau/Arsylwadau Gwersi: Wythnos yn cychwyn 1.6.26
Swydd yn cychwyn: Medi 2026
Nodwyd gan arolygwyr ESTYN, 2023 bod;
‘Ysgol Gymraeg Santes Tudful, sy’n cynnwys darpariaeth meithrin ar safle’r Gurnos, yn gymuned ddysgu lwyddiannus sy’n dathlu cynnydd a chyflawniad yr holl ddisgyblion yn arbennig o effeithiol. Mae ganddi naws gynhwysol a gofalgar. Mae’r pennaeth a’r dirprwy, gyda chefnogaeth ddeallus y corff llywodraethol, yn cynnig arweinyddiaeth glir ac argyhoeddedig ac yn parchu ymdrechion pawb sy’n cyfrannu at addysg gyflawn y disgyblion. Mae ethos yr ysgol wedi seilio’n gadarn ar weledigaeth gytûn, sef ysbrydoli, dysgu a dathlu. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn arddangos agweddau cryf iawn tuag eu dysgu, yn gofalu am eraill ac yn ymfalchïo yn eu Cymreictod, eu hysgol a’r ardal leol’
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Santes Tudful yn awyddus i benodi athro sy’n frwdfrydig, ymroddgar ac egnïol i ymuno â staff yr ysgol hon ym mis Medi 2026. Disgwylir sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da er mwyn gallu cydweithio gyda phlant, athrawon a rhieni'r ysgol. Rydym yn chwilio am berson sy'n gallu cefnogi gweledigaeth gynhwysol ac ethos teuluol ein hysgol, tra’n cefnogi ein meddylfryd ‘Profiadau yw popeth’. Ein staff yw’r cnewyllyn i bopeth, y rhinwedd mwyaf gwerthfawr a’r elfen fwyaf pwysig i lwyddiant ein hysgol - rydym yn dîm brwdfrydig sydd yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl i sicrhau addysg hynod i’n disgyblion.
Fel enillwyr y wobr aur ‘Ysgolion Gymunedol’ eleni, fe cyfeirir atom fel ysgol gymunedol sydd yn hwb i Ferthyr Tudful ac yn hwb i’r Gymraeg ac o ganlyniad y mae cydweithio arbennig rhwng yr ysgol, ein teuluoedd a’r holl rhanddeiliad.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymarferydd rhagorol ac egnïol ar lawr dosbarth, yn meddu ar ddealltwriaeth arbennig o addysgeg ar draws y sector Cynradd ac yn gyffrous am feithrin dinasyddion llwyddiannus a hyderus y dyfodol. Credwn yn gryf bod profiadau bywyd go iawn yn rhan allweddol o daith addysg plentyn. Edrychwn am rywun a fydd yn barod i gyfrannu at ein darpariaeth allgyrsiol a chynnig profiadau amhrisiadwy, amrywiol a chyffrous i ddisgyblion Ysgol Santes Tudful. Gofynnir i ymgeiswyr ymhelaethu ar eu gallu i gyfrannu at y meysydd a nodwyd yn eu llythyron cais.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
yn ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol sy'n ysbrydoli pob plentyn i gyrraedd ei lawn botensial trwy brofiadau dysgu o ansawdd uchel ac yn rhagori wrth ddatblygu dosbarth ollgynhwysiol gyda sylfaen cadarn o strategaethau dyfeisgar er mwyn cefnogi disgyblion ADY ein hysgol.
yn meddu ar wybodaeth drylwyr o Gwricwlwm i Gymru a strategaethau addysgeg gyfredol.
yn ymateb i arsylwadau a chanfyddiadau asesu er mwyn sicrhau cynnydd parhaus plentyn;
gyda disgwyliadau uchel ohonynt eu hunain ac o ddisgyblion yn eu gofal;
yn fodlon i gymryd risg ac i arbrofi gydag arddulliau addysgeg newydd;
yn creu amgylchedd dysgu ysgogol a gofalgar;
yn cynnal a chadw ethos Cymreig a safonau uchel yr ysgol;
yn dangos y gallu i weithio ar y cyd, yn aelod o dim brwdfrydig;
yn gyfathrebwr rhagorol gyda sgiliau rhyngbersonol o ansawdd uchel.
Gallwn gynnig i chi:
plant brwdfrydig sydd yn angerddol am eu hysgol, eu tref a’u dysgu
y cyfle i weithio gyda thîm o gydweithwyr gofalgar, uchelgeisiol ac arloesol;
datblygiad proffesiynol parhaus;
cymorth a chefnogaeth barhaus.