Ar-lein, Mae'n arbed amser
Swyddi Gwag Presennol
Swyddi: Pennaeth, Ysgoil Gynmraeg, Rhyd y Grug
Cyfeirnod y swydd: HT035-3426
Cyflog: £74,384.00 - I: £85,329.00
Graddfa Swydd: Leadership L15-L21
Oriau Swyddi: Full time
Lleoliad: Ysgol Rhyd Y Grug
Arbenigol:
YSGOL GYMRAEG RHYD Y GRUG
PENNAETH (L15 – 21)
Angenrheidiol ar gyfer Ionawr 2027
Cymraeg yn Hanfodol
TYFU-DYSGU-LLWYDDO
Nifer y disgyblion – 286
Mae Ysgol Gymraeg Rhyd-y-Grug wedi'i lleoli ym mhentref Aberfan yn awdurdod lleol Merthyr Tudful. Mae'r ysgol yn gwasanaethu plant Aberfan yn ogystal â nifer o bentrefi cyfagos. Cymraeg yw prif gyfrwng bywyd a gwaith yr ysgol, ac mae'r Saesneg yn cael ei chyflwyno fel pwnc o Flwyddyn 3.
Rydym yn hynod falch o'n natur gynhwysol a gofalgar yma yn Ysgol Gymraeg Rhyd-y-Grug gydag Estyn yn tynnu sylw:
'Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd y Grug yn gymuned gynhwysol sy'n rhoi pwyslais ar les disgyblion mewn amgylchedd croesawgar a chyfeillgar. Mae disgyblion yn hapus i ddod i'r ysgol ac yn dangos brwdfrydedd tuag at eu dysgu. Mae natur ofalgar y staff yn creu hafan ddiogel i ddisgyblion, ac maen nhw'n gwybod y gallant droi at unrhyw un os ydyn nhw'n teimlo'n bryderus. Mae gan ddisgyblion barch mawr at ei gilydd, staff ac ymwelwyr'
Dyddiad Cau: Dydd Gwener, 18 Medi 2026
Cynhelir y cyfarfod creu rhestr fer ddydd Mercher Medi 23ain 2026, a chynhelir y cyfweliadau dros ddau ddiwrnod ar y 7fed ac 8fed Hydref 2026. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu ar ddiwedd Diwrnod 1 os ydynt am symud ymlaen i Ddiwrnod 2.
Mae Pecyn Ymgeiswyr wedi'i lunio i'ch cefnogi pan fyddwch yn gwneud eich cais, ac mae taith o amgylch yr ysgol wedi'i threfnu ar gyfer 16 Gorffennaf 2026 ac 8 Medi 2026. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Mrs Laura Griffiths, Clerc y Llywodraethwyr (laura.griffiths@merthyr.gov.uk)
Ceisiadau drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig oherwydd natur y swydd hon.
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a bennir fel hanfodol.
Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gellir cael ffurflenni cais drwy ffonio 01685 725000 a dylid eu dychwelyd erbyn dydd Gwener, 18 Medi 2026 fan bellaf i Weinyddiaeth Adnoddau Dynol, y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae gallu siarad Cymraeg yn hanfodol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Cynhelir gwiriadau cyn-gyflogaeth trwyadl ar gyfer pob penodiad fel rhan o'n proses recriwtio a dethol.
Mae'n ofynnol i bob gweithiwr gydymffurfio â'u cyfrifoldebau unigol a sefydliadol o dan y Ddeddf Diogelu Data, y Polisi Diogelwch Gwybodaeth a pholisïau gweithredol ategol perthnasol. Ni ddylid datgelu na throsglwyddo unrhyw faterion o natur gyfrinachol i unrhyw bersonau anawdurdodedig neu drydydd parti o dan unrhyw amgylchiadau naill ai yn ystod neu ar ôl cyflogaeth ac eithrio yng nghwrs priodol eich cyflogaeth neu fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful neu'r ddau. Gall unrhyw dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain yn Gyflogwr o Ddewis, wedi ymrwymo i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal ym mhob agwedd ar ein gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ymgeiswyr o bob grwp a chefndir i wneud cais ac ymuno â ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym wedi ymrwymo'n gryf i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle a sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dethol ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth a mynegiant rhywedd, a beichiogrwydd a mamolaeth.