Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Swyddog Cymorth Llety Dros Dro
Cyfeirnod y swydd: RE-1964
Cyflog: £34,434.00 - I: £36,363.00
Graddfa Swydd: Gradd 6 / Grade 6
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Canolfan Ddinesig a gweithio ystwyth / Civic Centre & agile working
Arbenigol:
Amser Penodedig tan 31ain Mawrth 2027

Cydweithio'n agos â'r Swyddog Llety Dros Dro a'r tîm Tai ehangach i ddarparu gwasanaeth llety dros dro cynhwysfawr ac effeithiol. Mae hyn yn cynnwys rheoli prosesau mynediad a symud ymlaen, gan sicrhau bod ymgeiswyr yn derbyn cymorth priodol sy'n gysylltiedig â thai trwy gydol eu harhosiad. Yn ogystal, sicrhau bod y Cyngor yn gwneud y defnydd mwyaf o adnoddau lleol i atal a lleddfu digartrefedd.

Cyfrannu at atal a / neu liniaru digartrefedd trwy gynnig cyngor gwybodus a chymryd camau rhagweithiol, sy'n canolbwyntio ar atebion.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Suzanne Stephens / Erin Nicklin ar 01685 725000 neu ebostiwch Suzanne.Stephens@merthyr.gov.uk / Erin.Nicklin@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 30.07.2026 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.