Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned yr Amgueddfa
Cyfeirnod y swydd: RE-1983
Cyflog: £31,537.00 - I: £33,699.00
Graddfa Swydd: Gradd 5 / Grade 5
Oriau Swyddi: 30 Awr / 30 Hours
Lleoliad: Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa / Cyfarthfa Castle Museum and Art Gallery
Arbenigol:
Gradd 5 SCP 18-22 = £31,537 - £33,699 y flwyddyn

30 Awr = 81.08%

= £25,570 - £27,323 y flwyddyn

Cyflwyno rhaglen ymgysylltu cymunedol cynhwysol a fydd yn galluogi casgliad gwasanaeth yr Amgueddfa i ddod yn fwy hygyrch i gymunedau a theuluoedd lleol, gan annog eu cyfranogiad.

Dyfeisio a chyflwyno sesiynau fel digwyddiadau cyhoeddus a digwyddiadau tymhorol, gan gynnwys gweithdai dysgu teuluol Nadolig, digwyddiadau dysgu oedolion, prosiectau ac allgymorth cymunedol i ddenu ymwelwyr newydd mewn cydweithrediad â'r Swyddog Addysg a Dehongli a'r tîm ehangach.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Charlotte Barry / Kelly Powell ar 01685 725000 neu ebostiwch Charlotte.Barry@merthyr.gov.uk / Kelly.Powell@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 24.09.2026 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.