Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Paragyfreithiwr-wraig
Cyfeirnod y swydd: RE-1995
Cyflog: £38,510.00 - I: £42,123.00
Graddfa Swydd: Gradd 7 / Grade 7
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Y Ganolfan Ddinesig, Merthyr Tudful / Civic Centre, Merthyr Tydfil
Arbenigol:
Dyma gyfle gwych i ymuno ag Adran y Gwasanaethau Cyfreithiol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gweithio fel Cynorthwyydd Cyfreithiol, yn cefnogi gwasanaethau cyfreithiol o safon uchel ar draws ystod eang o weithgareddau llywodraeth leol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio â chyfreithwyr profiadol a phobl broffesiynol o fewn maes y gyfraith, yn cyfrannu at faterion sy’n cael effaith uniongyrchol sylweddol ar y Cyngor, ei wasanaethau a’r gymuned ehangach. Drwy’r swydd byddwch yn delio ag ystod o lwyth achosion fydd yn darparu profiad gwerthfawr dros ystod eang o waith cyfreithiol yn cynnwys ymgyfreithio, materion rheoleiddio a gorfodi, llywodraethu, cytundebau a gwaith ymgynghorol.
Fel rhan o dîm cefnogol sy’n cydweithio, byddwch yn cynorthwyo i reoli achosion cyfreithiol a phrosiectau, byddwch yn ymgymryd ag ymchwil cyfreithiol, yn paratoi dogfennaeth ac yn cysylltu â chleientiaid, bargyfreithwyr, llysoedd a sefydliadau allanol. Mae ehangder y gwaith sydd ar gael yn darparu sylfaen gwych i ddatblygu gwybodaeth gyfreithiol a sgiliau ymarferol o fewn amgylchedd proffesiynol llywodraeth leol.
Rydym yn ymroddedig i gefnogi datblygiad proffesiynol ac rydym yn cynnig cyfleoedd i ymestyn profiadau, cynyddu arbenigrwydd technegol a gweithio ar faterion cymhleth a heriol. Mae’r swydd yn gweddu’n arbennig i unigolyn a hoffai enyn dealltwriaeth werthfawr o’r modd y mae gwasanaeth cyfreithiol modern o fewn awdurdod lleol yn gweithredu.
Mae’r Gwasanaethau Cyfreithiol yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor a’i gyfrifoldebau statudol. Cydnabyddir ein tîm am ei broffesiynoldeb, ei ddull cydweithredol a’i ymrwymiad at ddarparu cyngor cyfreithiol pragmataidd sy’n canolbwyntio at ddatrys anawsterau. Rydym yn meithrin amgylchedd weithio gadarnhaol lle anogir cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau, rhannu gwybodaeth a chyfrannu at welliannau parhaus.
Os ydych yn frwdfrydig ac yn hynod drefnus ac yn chwilio am swydd gyfreithiol heriol a gwerthfawr gyda chyfleoedd gwirioneddol i ddatblygu’n broffesiynol, byddem yn croesawu eic cais

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Rebecka Bow ar 01685 725000 neu ebostiwch Rebecka.Bow@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol. I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 08.10.2026 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.