Ar-lein, Mae'n arbed amser
Swyddi Gwag Presennol
Swyddi: Athro/Athrawes, Ysgol Gymraeg Santes Tudful
Cyfeirnod y swydd: TC036-4126
Cyflog: £34,912.00 - I: £53,760.00
Graddfa Swydd: Teachers Pay Scale
Oriau Swyddi: Full-time
Lleoliad: Twynyrodyn, Merthyr Tydfil
Arbenigol:
YSGOL GYMRAEG SANTES TUDFUL
Swydd Athro/awes
(Swydd parhaol)
Cyflog: Prif Raddfa Athrawon
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon newydd gymhwyso ac athrawon profiadol.
Dyddiad Cau: 25.11.26
Dyddiad tynnu rhestr fer: 27.11.26
Cyfweliadau/Arsylwadau Gwersi: 9/12/2026 + 10/12/2026
Swydd yn cychwyn: Ionawr 2027 (neu cynted â phosib oddi ar hynny)
Nodwyd gan arolygwyr ESTYN, 2023 bod;
‘Ysgol Gymraeg Santes Tudful, sy’n cynnwys darpariaeth meithrin ar safle’r Gurnos, yn gymuned ddysgu lwyddiannus sy’n dathlu cynnydd a chyflawniad yr holl ddisgyblion yn arbennig o effeithiol. Mae ganddi naws gynhwysol a gofalgar. Mae’r pennaeth a’r dirprwy, gyda chefnogaeth ddeallus y corff llywodraethol, yn cynnig arweinyddiaeth glir ac argyhoeddedig ac yn parchu ymdrechion pawb sy’n cyfrannu at addysg gyflawn y disgyblion. Mae ethos yr ysgol wedi seilio’n gadarn ar weledigaeth gytûn, sef ysbrydoli, dysgu a dathlu. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn arddangos agweddau cryf iawn tuag eu dysgu, yn gofalu am eraill ac yn ymfalchïo yn eu Cymreictod, eu hysgol a’r ardal leol’
Rydym yn chwilio am athro/athrawes frwdfrydig, ymroddgar ac egnïol i ymuno â staff Ysgol Santes Tudful ym mis Ionawr 2027.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, ynghyd â'r gallu i gydweithio'n effeithiol â phlant, staff, rhieni a'r gymuned ehangach.
Rydym yn chwilio am rywun a fydd yn croesawu ac yn cefnogi gweledigaeth gynhwysol ac ethos teuluol ein hysgol, wrth gyfrannu at ddatblygu ein meddylfryd craidd, "Profiadau yw Popeth". Credwn mai ein staff yw calon yr ysgol; nhw yw ein hadnodd mwyaf gwerthfawr a'r allwedd i lwyddiant ein disgyblion.
Rydym yn dîm ymroddedig ac uchelgeisiol sy'n mynd y tu hwnt i'r disgwyl er mwyn darparu'r addysg a'r profiadau gorau posibl i bob plentyn.
Fel enillwyr Gwobr Aur Ysgolion Cymunedol Cymru, rydym yn falch o'n henw da fel ysgol sy'n gwasanaethu fel hwb i gymuned Merthyr Tudful ac i'r Gymraeg. Mae'r berthynas gref rhwng yr ysgol, ein teuluoedd a'n partneriaid yn greiddiol i bopeth a wnawn, gan sicrhau ymdeimlad cryf o berthyn, cydweithio a llwyddiant ar y cyd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymarferydd rhagorol ac egnïol yn yr ystafell ddosbarth, yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o addysgeg gynradd effeithiol ac yn angerddol dros ddatblygu dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ffynnu yn y dyfodol.
Yn Ysgol Santes Tudful, credwn fod profiadau bywyd go iawn yn rhan annatod o addysg bob plentyn. Felly, rydym yn chwilio am unigolyn sydd yn fodlon cyfrannu'n weithredol at ein darpariaeth allgyrsiol gyfoethog a helpu i greu cyfleoedd dysgu amhrisiadwy, amrywiol a chyffrous i'n disgyblion.
Gofynnir i ymgeiswyr amlinellu yn eu llythyr cais sut y byddent yn cyfrannu at ethos, gweledigaeth a bywyd ehangach yr ysgol, gan gynnwys unrhyw gryfderau neu brofiadau perthnasol a fyddai'n cyfoethogi cyfleoedd ein dysgwyr.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
? yn ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol sy'n ysbrydoli pob plentyn i gyrraedd ei lawn botensial trwy brofiadau dysgu o ansawdd uchel ac yn rhagori wrth ddatblygu dosbarth ollgynhwysiol gyda sylfaen cadarn o strategaethau dyfeisgar er mwyn cefnogi disgyblion ADY ein hysgol.
? yn meddu ar wybodaeth drylwyr o Gwricwlwm i Gymru a strategaethau addysgeg gyfredol.
? yn ymateb i arsylwadau a chanfyddiadau asesu er mwyn sicrhau cynnydd parhaus plentyn;
? gyda disgwyliadau uchel ohonynt eu hunain ac o ddisgyblion yn eu gofal;
? yn fodlon i gymryd risg ac i arbrofi gydag arddulliau addysgeg newydd;
? yn creu amgylchedd dysgu ysgogol a gofalgar;
? yn cynnal a chadw ethos Cymreig a safonau uchel yr ysgol;
? yn dangos y gallu i weithio ar y cyd, yn aelod o dim brwdfrydig;
? yn gyfathrebwr rhagorol gyda sgiliau rhyngbersonol o ansawdd uchel.