Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mae prentisiaeth yn swydd â thâl sy'n cyfuno profiad gwaith ymarferol â dysgu wedi ei strwythuro - felly rydych chi'n ennill cyflog wrth i chi ddysgu!
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i gefnogi'r rhaglen Prentisiaethau.
Mae'r cynllun Prentisiaeth yn cynnig cyfle i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr medrus wrth astudio cymhwyster ac ennill hyfforddiant perthnasol yn y swydd. Mae llwybrau prentisiaeth yn cynnwys cymysgedd o ddysgu seiliedig ar waith a hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth naill ai wedi ei ddarparu trwy ein partneriaethau â Cholegau lleol a darparwyr hyfforddiant. Mae ein prentisiaid yn elwa o gael eu paru â mentor a all eu cefnogi a'u hyfforddi drwy gydol eu prentisiaeth.
Mae CBSMT wedi gweld cryn lwyddiant o ran uwchsgilio gweithwyr trwy astudio prentisiaethau mewn ystod o feysydd gan gynnwys TGCh, Cyllid, Cyfryngau Cymdeithasol, Data, AD, Rheoli Adeiladau, Priffyrdd a Pheirianneg, Carbon ac Ynni, Adeiladu a llawer mwy!
Mae prentisiaethau yn rhoi fframwaith hyfforddi cynhwysfawr, ond hyblyg, i ni sy'n arwain at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol, a all gefnogi holl aelodau ein tîm ar bob lefel, gwella eu perfformiad a dangos eu cymhwysedd i wella'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu i chi, drigolion Merthyr.
Mae'r cynllun yn agored i unrhyw un o 16+ oed.